Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Hydref 2021
Mae cynlluniau ar gyfer cyfnod cyntaf prosiect i adfywio safle ‘The British’ yn Nhal-y-waun wedi cael cymeradwyaeth gan drigolion lleol.
Ymwelodd rhyw 30 o bobl â’r safle ddoe i gyfarfod tîm y prosiect, a ddisgrifiodd y cynlluniau ar gyfer y cyfnod cyntaf. Ac roedd cefnogaeth unfrydol ymhlith y rhai a fynychodd.
Meddai Bob Rogers, o Dal-y-waun: "Mae’r ardal hon yn agos iawn i ‘nghalon ac rwy’n mynd â’r ci am dro bob dydd ar y British. Rwy’n meddwl bod hyn yn gychwyn rhagorol."
Dywedodd Bethan Whelan, o Aberyschan: "Rwy’n hoffi’r cynlluniau – rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y datblygiad yn cyd-fynd â harddwch naturiol yr ardal a’i threftadaeth ddiwydiannol."
Ychwanegodd cynghorydd Abersychan Lynda Clarkson, sy’n eistedd ar Bwyllgor Cyswllt y British a Grŵp Cyfeillion y British: "Mae hyn wedi cymryd amser ac rwy’n meddwl bod pobl yn falch bod y gwaith yn dechrau. Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi na allai ddod heddiw, ond eisiau mwy o wybodaeth, felly mae llawer o ddiddordeb yn y prosiect."
Bydd y gwaith, sydd i gychwyn mewn ychydig wythnosau, yn canolbwyntio ar wella diogelwch rhan o’r safle drwy drin cyn-weithfeydd a lleihau’r perygl o lifogydd drwy greu cwrs dŵr a phwll newydd.
Mae’r cyfnod hwn yn hanfodol er mwyn gwella diogelwch y safle a dyma’r rhan cyntaf yn jig-so Uwchgynllun y British, a gymeradwywyd gan Gynghorwyr Torfaen ym mis Tachwedd 2018 gyda’r nod o adfywio’r ardal.
Meddai Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen ar gyfer yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, y Cynghorydd Joanne Gauden: "Roedd yn wych bod pobl wedi dod i gyfarfod y tîm a dysgu mwy am y cyfnod hollbwysig cyntaf yma, yn enwedig o ystyried y tywydd!
"Gofynnodd pobl gwestiynau am ble bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a lle mae’r pwll newydd yn debygol o gael ei leoli.
"Roeddwn yn falch iawn o weld cymaint o drigolion ifanc yn dod draw a chymryd diddordeb."
Mae’r cyfnod cyntaf hwn i’w gwblhau ym mis Mawrth 2023. Mae wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig, a Llywodraeth Cymru.