Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Tachwedd 2021
Mae trigolion yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer #Her30 i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith fod 30 o blant yng Ngwent, pob dydd, yn cael eu heffeithio gan gamdriniaeth ddomestig sy’n tynnu’r heddlu i mewn.
Mae Cyngor Torfaen yn cefnogi’r fenter, sy’n galw ar unigolion, busnesau, ysgolion, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn heriau sy’n canolbwyntio ar y rhif 30 rhwng dydd Iau, Tachwedd 25 a dydd Gwener Rhagfyr 10.
Gofynnir i unrhyw sy’n cymryd rhan rannu lluniau a fideos ar-lein gan ddefnyddio hashnod #Her30, fel rhan o ddiwrnod Rhuban Gwyn yr wythnos nesaf, sy’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig dros Ddileu Trais yn Erbyn Menywod.
Yn ôl ffigyrau Heddlu Gwent, mae swyddogion yn cael eu galw i 30 o ddigwyddiadau o gamdriniaeth ddomestig pob dydd yng Ngwent ble mae plant yn bresennol.
Gall camdriniaeth ddomestig fod mewn sawl ffurf gan gynnwys camdriniaeth gorfforol, rheolaeth trwy orfodaeth, camdriniaeth seicolegol a chamdriniaeth ariannol.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn hynod o bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith andwyol trais gan ddynion yn erbyn menywod, nid yn unig ar unigolion, ond ar eu teuluoedd hefyd.
“Eleni, rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn #Her30 i godi ymwybyddiaeth o nifer y plant a phobl ifanc sy’n bresennol yn ddiniwed mewn digwyddiadau o gamdriniaeth ddomestig.
“Y rhan bwysig yw eich bod yn cefnogi ac yn annog pobl i wrthsefyll trais yn erbyn menywod ac yn annog unrhyw un sy’n dioddef camdriniaeth i godi llais a cheisio cymorth. Peidiwch â dioddef yn dawel, mae help ar gael.”
Mae #Her30 yn cael ei drefnu gan Fwrdd Partneriaeth VAWDASV Rhanbarth Gwent sy’n gynllun cydweithredol amlasiantaeth sy’n gweithio ar draws Gwent i atal trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.
Mae gweithdai addysg a chynlluniau gwersi’n cael eu cyflwyno mewn ysgolion ledled Gwent er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd perthnasau iach gyda phlant a phobl ifanc.
Dywedodd y Prif Gwnstabl, Pam Kelly: “Mae gan bawb ran i’w chwarae er mwyn dod â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched i ben.
“Mae camdriniaeth ddomestig a throseddau tebyg yn gadael eu hôl am gyfnod hir ar bobl sy’n dioddef a phobl sy’n dyst i hynny hefyd.
“Mae hyn hyd yn oed yn fwy pan fo plant yn dyst.
“Trwy wrthsefyll trais, rydym yn amddiffyn menywod a phlant, ond hefyd yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn byw mewn byd ble mae parchu’n gilydd yn sicr.
“Os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn eu hadnabod wedi dioddef y drosedd hon, dewch i siarad â ni.
“Rydym yma i’ch helpu”.
Mae pecyn ar-lein ar gael i’w lawrlwytho o www.gwent.pcc.police.uk ac mae’n cynnwys syniadau ar gyfer yr her, a chynnwys posibl ar gyfer sianelau cyfryngau cymdeithasol.
Mae llinell gymorth 24/7 am ddim Byw Heb Ofn ar gael i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan gamdriniaeth ac yn cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a’r rheiny sy’n agos atyn nhw. Ffoniwch 0808 8010 800 neu, danfonwch neges destun at: 078600 77333.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. I ddweud am ddigwyddiad, ffoniwch 101 neu, danfonwch neges at sianelau cyfryngau cymdeithasol @gwentpolice.