Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Tachwedd 2021
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau cyn etholiadau mis Mai 2022 i gynyddu’r nifer o bobl sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio ac i gyflwyno cynlluniau pleidleisio hyblyg newydd i alluogi pleidleisio ymlaen llaw.
Yn Nhorfaen, bydd swyddfeydd y cyngor yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl yn cael eu defnyddio fel gorsaf bleidleisio ymlaen llaw ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul cyn diwrnod yr Etholiad (Mai 5ed), os dymuna unrhyw drigolion yn y sir fwrw eu pleidlais ymlaen llaw. Bydd hyn yn cynnwys etholiadau lleol ac etholiadau cynghorau cymuned.
Meddai’r Prif Swyddog Gweithredol yng Nghyngor Torfaen, Stephen Vickers: “Rydym eisiau i’r etholiadau llywodraeth leol a chynghorau cymuned ym mis Mai 2022 fod mor hygyrch ag y bo modd a sicrhau bod pawb sydd eisiau pleidleisio, yn gallu pleidleisio, ac felly dyna pam y bu i ni wirfoddoli ar gyfer y cynllun pleidleisio hyblyg.
“Efallai y bydd pobl nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer pleidlais absennol ac a fyddai efallai yn cael anhawster i fynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
“Mae hefyd yn hanfodol cynnwys pobl ifanc mewn democratiaeth a rhoi llais iddyn nhw. Rydym eisiau i’n pleidleiswyr newydd 16 ac 17 oed gofrestru ac yna defnyddio eu pleidlais yn yr etholiadau lleol a chynghorau cymuned. Rwy’n gwybod, o siarad gyda phobl ifanc, bod gostwng yr oed pleidleisio yng Nghymru wedi cael ymateb gwych a bod eu ffrindiau sy’n byw yn Lloegr yn genfigennus.
“At hyn, rydym bob amser yn ceisio cael ffyrdd o gynnwys trigolion yng ngwaith y cyngor. Ar hyn o bryd mae gennym ymgynghoriadau byw ar deithio lleol, chwarae, yr hinsawdd a’r economi, felly ewch draw i’n hwb ymgynghori drwy chwilio ‘Chwarae Rhan Torfaen’ neu ewch i https://getinvolved.torfaen.gov.uk/”
I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch caroline.genever-jones@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 766074