Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Tachwedd 2021
Ar ôl i dân atal casgliadau plastig ymestynnol yn y fwrdeistref, mae Capital Valley Plastics yn falch o hysbysu trigolion Torfaen eu bod nawr mewn sefyllfa i ailgychwyn casgliadau.
Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Capital Valley Plastics ers 2019 i ailgylchu eitemau fel bagiau plastig, deunydd swigod lapio a deunydd lapio bwyd a fyddai fel arall yn mynd i safle tirlenwi.
Gellir mynd â phlastig ymestynnol i’r lleoliadau canlynol i gael ei ailgylchu:
- Banc safle CVP Kays and Kears (wedi ei symud i’r adeilad cyntaf)
- Banc swyddfeydd cyngor Torfaen
- Banc CVP Cwmavon Road
- Banc Ysgol Gynradd Brynonnen
- Canine Corner Croesyceiliog
- Able Radio
- Pentref y Farchnad, canol tref Cwmbrân
- Swyddfa Bost Talywaun
- Blaenafon RFC
- Zero Waste Torfaen
- Fy siop leol - Edlogan Square
- The Costar Partnership
- Canolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ Torfaen
- Byddin yr Iachawdwriaeth Stryd Wesley
Rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Nhorfaen.
Fel cyngor, rydym eisiau lleihau ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd a natur, ac rydym eisiau gweithio gyda chi i wneud i hyn ddigwydd.
Mae ein Cynllun Gweithredu drafft ar yr Argyfwng Hinsawdd a Natur yn nodi sut rydym yn bwriadu mynd ymhellach i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yma, ac rydym eisiau gwybod beth yw eich barn chi ar ein cynllun.