Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021
Bydd pum prosiect newydd gyda’r bwriad o gefnogi busnesau a chynyddu sgiliau yn Nhorfaen yn derbyn bron i £1.3miliwn gan gronfa newydd gan Lywodraeth y DU.
Gwahoddodd Cyngor Torfaen sefydliadau lleol i wneud cais am gyfran o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU, rhaglen beilot ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Cymru a fydd yn cymryd lle strwythurau ariannu’r UE o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Yn ogystal â’r pum prosiect, bydd dau gynllun rhanbarthol wedi eu harwain gan gyngor Torfaen yn derbyn tua| £2.5m.. Y cynlluniau llwyddiannus yw:
Connect, Engage, Listen and Transform: £1,909,978
Bydd prosiect CELT yn profi ffyrdd newydd o dechnegau ac ymyraethau effeithiol i gefnogi’r di-waith tymor hir i mewn i waith ar draws 10 awdurdod lleol yn ne Cymru. Bydd y canfyddiadau’n rhoi sail i geisiadau yn y dyfodol i Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd Llywodraeth y DU ac arian grant ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd.
Food 4 Growth: £609,084
Bydd y prosiect yma’n canolbwyntio ar gysylltu diwydiannau gwledig amaethyddol gyda chanol trefi yn Nhorfaen, Caerffili a Sir Fynwy. Bydd yn cynnwys astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar brosiectau adnewyddol cymunedol, prynu tanwydd mewn llwyth, arallgyfeirio, hybu bwyd lleol a rhaglen gymorth arloesi gwledig.
Stepping Stones: £331,410
Dyma raglen entrepreneuraidd i gefnogi pobl dros 50 oed, sy’n ddi-waith i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Prosiect Cymorth Busnesau Bychain Pont-y-pŵl a Blaenafon: £151,465
Bydd hyrwyddo busnesau cychwynnol a phryniant busnes i fusnes ym Mhont-y-pŵl a Blaenafon yn un o amcanion y prosiect yma. Bydd yn datblygu llwyfan cyfnewid sgiliau i gefnogi busnesau newydd, rhoi tro ar gyfleoedd am eiddo tymor byr a gweithio gyda landlordiaid ddod ag adeiladau gwag yn ôl at ddefnydd.
The Life You Want: £200,294
Rhaglen gyflogadwyedd a hyder a fydd yn targedu dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn benodol. Bydd cymwysterau’n cael cefnogaeth trwy ddysgu digidol neu yn y dosbarth.
Young Enterprise Torfaen: £228,126
Bydd y prosiect yma’n cefnogi pobl ifanc i mewn i hunangyflogaeth trwy eu helpu i ddatblygu sgiliau, fel arbenigedd digidol ac entrepreneuraidd, a hyder.
Pecyn Digidol i Fusnesau Torfaen: £378,000
Bydd busnesau yn Nhorfaen heb bresenoldeb ar-lein yn cael cynnig cefnogaeth trwy ddatblygiad ap a gwefannau penodol.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredo Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae’n wych gweld yr amrywiaeth o brosiectau sydd wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus ar gyfer arian Llywodraeth Cymru.
"Mae ffocws y gronfa’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cyngor Torfaen ar gyfer economi ffyniannus, cydnerth sy’n cynnig cyfleoedd am gyflogaeth â lefel uchel o sgiliau ac yn cefnogi’r rheiny sy’n ddi-waith i gael gwaith."
Ychwanegodd Jonathan Hale, rheolwr sgoliau a chyflogadwyedd Cyngor Torfaen, sy’n rhan o brosiect CELT: "Bydd CELT yn rhoi tro ar ffyrdd newydd o gyrraedd a chefnogi pobl sydd â rhwystrau at waith ar draws De Ddwyrain Cymru.
"Dros yr wyth mis nesaf, byddwn yn ceisio adnabod yr ymyraethau mwyaf effeithiol o’r cyflenwadau yn y gorffennol ac ar hyn o bryd i ysbrydoli’r cyflenwad presennol i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu haddasu at anghenion ein trigolion a’r economi leol."
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus