Ysgol Gynradd Stryd Siôr yn fuddugol yng nghwpan plant EFL

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Tachwedd 2021
EFL kids cup

Mae bron i 100 o blant o ysgolion ledled Torfaen wedi cymryd rhan yn rownd Torfaen ar gyfer cwpan Plant Utilita Ymddiriedolaeth Cynghrair Pêl-droed Lloegr (EFLT) yn Stadiwm Cwmbrân.

Cymerodd 11 o ysgolion cynradd o Dorfaen ran yng nghystadleuaeth eleni a drefnwyd gan County in the Community mewn partneriaeth â Datblygiad Chwaraeon Torfaen.

Roedd safon uchel o bêl-droed i’w gweld gan yr holl dimau a gymerodd ran, gydag ysgolion Dewi Sant, Greenmeadow, Ysgol Gymraeg Cwmbrân a Stryd Siôr yn cyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Eleni, Ysgol Gynradd Stryd Siôr enillodd y Cwpan Plant EFL Torfaen, gan guro Ysgol Dewi Sant mewn rownd derfynol galed.

Bydd y pedair ysgol yn y rownd gynderfynol yn mynd ymlaen i gynrychioli Torfaen yn rowndiau terfynol Gwent ar 29ain Tachwedd yn Velodrome Casnewydd.

Bydd yr ysgol sy’n ennill Rownd Terfynol Gwent County in the Community yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Cynghrair 2 (De), ar faes Swindon Town, yn y flwyddyn newydd.

Sicrhaodd cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Bradley Roberts, Keeley Jones a Ryley Beard bod y gemau yn mynd yn rhwydd trwy ddyfarnu y rhan fwyaf o gemau a chofnodi ystadegau.

Mae digwyddiadau fel cwpan EFL yn helpu disgyblion chweched dosbarth a choleg i gael profiad o arwain fel rhan o’u lleoliadau 'hyfforddwyr y dyfodol' ac yn eu cynorthwyo gyda’u hastudiaethau lefel A hefyd.

Elusen sy’n gysylltiedig â Chlwb Pêl-droed Casnewydd yw County in the Community, ac maen nhw’n gweithio i wella chwaraeon mewn ysgolion a hyrwyddo cynhwysiant ledled Gwent, yn ogystal â Llythrennedd, Rhifedd a Darpariaeth PCIE mewn ysgolion cynradd.

Dywedodd Dan Harvey o County in the Community , “Dyma’r wythfed flwyddyn i ni gynnal cystadleuaeth Cwpan Plant EFL, ochr yn ochr â 71 o ymddiriedolaethau EFL cymunedol eraill. Rydym yn darparu twrnameintiau rhagbrofol rhanbarthol ledled Gwent pob blwyddyn, i gymryd i ffwrdd y pwysau ariannol allai fod ar ysgolion Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy wrth deithio i dwrnameintiau yng Nghasnewydd pob blwyddyn.

Mae’r gefnogaeth yr ydym yn ei derbyn gan unedau Datblygu Chwaraeon ym mhob rhanbarth yn allweddol i’n galluogi i gynnal y cystadlaethau mawr yma.  Gyda’r cyfleusterau gan Ddatblygiad Chwaraeon Torfaen a’r dyfarnu gan wirfoddolwyr, mae’n fendith i ni ac rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.”

Dywedodd Jacob Guy o Ddatblygiad Chwaraeon Torfaen, ‘Mae hi wedi bod yn 18 mis anodd ac annifyr, felly mae’n wych cael yr ysgolion allan yn yr awyr agored ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon eto.

 

Fe wnaethom ni sicrhau ein bod yn dilyn pob cyfarwyddyd er mwyn cael twrnamaint llwyddiannus arall.  Diolch yn fawr i’r disgyblion a staff yr ysgolion am eu cefnogaeth a phob lwc i’r 4 ysgol a fydd yn cynrychioli Torfaen yn rowndiau terfynol Gwent’

Diwygiwyd Diwethaf: 12/11/2021 Nôl i’r Brig