Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021
Mae perchennog siop o Bont-y-pŵl wedi ymddangos gerbron llys ar ôl i dybaco a sigaréts ffug gael eu canfod y tu ôl i wal ffug.
Aeth Swyddogion Safonau Masnach Torfaen i fusnes o’r enw Ponty Market, ar Osborne Road, yn Chwefror 2020 yn dilyn cwyn. Fe ddaethon nhw o hyd i gawson nhw hyd i werth £2,200 o sigaréts a thybaco anghyfreithlon y tu ôl i wal gyda gorchudd trydanol.
Daeth hyn ar ôl i swyddogion gael hyd i werth £1,744 o sigaréts ffug a thramor mewn rhaniad DIRGEL mewn bwrdd mewn busnes ar Commercial Street a oedd yn eiddo i’r un perchennog ym Medi 2019.
Cafwyd hyd hefyd i dybaco anghyfreithlon gwerth £391 mewn popty nwy yn yr adeilad yn ystod y cyrch ar y cyd â swyddogion CThEM yn Rhagfyr 2019.
I gyd, cipiwyd 4,480 o sigaréts anghyfreithlon a phedwar cilogram o dybaco o siopau Mohammed Ahmad. Amcangyfrifwyd bod y twyll yn werth hyd at £100,000.
Dangosodd ymchwiliad bod rhai o’r sigaréts a’r pacedi o dybaco yn ffug, sy’n golygu eu bod wedi eu cynhyrchu’n anghyfreithlon ac yn cario risgiau sylweddol ychwanegol i iechyd, ac roedd eraill yn frandiau tramor nad oes modd eu gwerthu yn y DU.
Canfuwyd hefyd fod Ahmad yn gyfarwyddwr nifer o gwmnïau gan gynnwys Ponty Market Elf Ltd a Vivid Profit Ltd, ym Mhont-y-pŵl, a Quick 1 Shop, yng Nghaerffili, ble roedd sigaréts a thybaco ffug wedi eu gwerthu.
Ar ddydd Gwener, ymddangosodd Ahmad, o Ffordd Ottoway, Caerdydd, yn Llys y Goron, Caerdydd ar ôl pledio’n euog i redeg busnes trwy dwyll a gwerthu sigaréts a thybaco anghyfreithlon, ffug a rhai tramor a oedd yn osgoi treth.
Cafodd ei ddedfrydu i 12 mis o garchar wedi ei ohirio, 250 awr o waith di-dâl , 6 diwrnod o weithgaredd adfer, a’i wahardd o fod yn gyfarwyddwr cwmni am 5 mlynedd. Gorchmynnwyd hefyd iddo dalu £3,768 o gostau o fewn 6 mis.
Rhoddodd y barnwr orchymyn bod y tybaco anghyfreithlon i gael ei fforffedu a’i ddinistrio.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros Gymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r ddedfryd yn dangos yn glir pa mor ddifrifol yw’r troseddau yma ym marn y llys.
"Dyw gwerthu nwyddau ffug ddim yn drosedd heb ddioddefwr. Mae gan Swyddogion Safonau Masnach y Cyngor rôl bwysig wrth ddiogelu defnyddwyr a busnesau onest yn Nhorfaen rhag peryglon sy’n gysylltiedig â gwerthu nwyddau ffug, a’r fantais fasnachol annheg sydd gan fasnachwyr anonest o ganlyniad.
"Mae swyddogion yn parhau i weithio’n galed, yn ymgymryd ag archwiliadau ac ymchwiliadau er mwyn nodi unrhyw dorcyfraith posibl o’r safonau masnach, er budd diogelu’r defnyddiwr."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am unigolion sy’n gwerthu nwyddau ffug gysylltu â’r Gwasanaeth Safonau Masnach yn gyfrinachol ar 01633 647624 neu drwy ddanfon e-bost at tradingstandards@torfaen.gov.uk.