Amseroedd agor y llyfrgell i newid

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 30 Tachwedd 2021

Gwnaed penderfyniad i ostwng amseroedd agor y llyfrgelloedd dros dro ar ddydd Sadwrn i helpu i reoli prinder staff tra bo'r gwasanaeth yn edrych ar ffyrdd o gyflymu'r broses o gyflawni'r strategaeth lyfrgelloedd.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, cymeradwyodd aelodau cabinet Cyngor Torfaen y cynnig i ostwng oriau ar ddydd Sadwrn yn llyfrgelloedd Blaenafon, Cwmbrân a Phont-y-pŵl

Bydd oriau agor llyfrgell Pont-y-pŵl hefyd yn gostwng yn ystod yr wythnos.

Bydd y newidiadau newydd yn dod i rym yn y Flwyddyn Newydd

Yr oriau agor newydd ar ddydd Sadwrn fydd-:
Dydd Sadwrn Pont-y-pŵl – 9am – 1pm
Dydd Sadwrn Cwmbrân – 8:45am – 1pm
Dydd Sadwrn Blaenafon – 10am – 2pm

Yr oriau agor newydd yn ystod yr wythnos yn Llyfrgell Pont-y-pŵl fydd:
Dydd Llun – Parhau ar gau
Dydd Mawrth – 2pm-7pm
Dydd Mercher – 9am – 5pm
Dydd Iau – 9am – 1pm
Dydd Gwener – 9am – 5pm

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Sgiliau, Economi ac Adfywio: “Wrth i drafodaethau fynd rhagddynt ynghylch y ffordd orau i lyfrgelloedd gefnogi trigolion yn Nhorfaen, cymeradwywyd gostwng yr oriau agor.

“Mae'n gwneud synnwyr bod yr oriau'n cael eu gostwng yn ystod yr amseroedd tawelach, ond rydyn ni dal eisiau sicrhau bod digon o gyfle i bobl ymweld â'n llyfrgelloedd. Mae gan lyfrgelloedd lawer mwy i'w gynnig na llyfrau, felly rwy'n falch iawn bod model gweithio newydd yn cael ei gynllunio. "

Ddarganfod mwy am lyfrgelloedd yn Nhorfaen

 

Diwygiwyd Diwethaf: 30/11/2021 Nôl i’r Brig