Ymgais Torfaen i fod yn Lle Bwyd Cynaliadwy

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Tachwedd 2021
Pontypool Outdoor Market

Mae yna gynlluniau i drawsnewid Torfaen i fod yn Lle Bwyd Cynaliadwy, fel rhan o fenter i gefnogi ac annog rhwydweithiau bwyd lleol.

Mae prosiect Lle Bwyd Cynaliadwy yn ceisio cynyddu faint o fwyd lleol sydd ar gael yn Nhorfaen, cynnig ffyrdd amgen o daclo tlodi bwyd a thaclo allyriadau carbon trwy leihau milltiroedd bwyd.

Fel rhan o’r prosiect, mae yna gynlluniau i greu map bwyd ac mae trigolion yn cael eu gwahodd i helpu trwy gwblhau arolwg ynglŷn â pha fwyd y maen nhw’n ei brynu ac o ble.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac adfywio: "Mae Torfaen yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr lleol, a gall bobl brynu bwydydd ffres, iach o nifer o fannau, fel marchnadoedd dan do ac awyr agored adnabyddus Pont-y-pŵl.

 "Dyma gyfle i ddeall beth sy’n dylanwadu ar drigolion lleol pan ddaw at brynu bwyd wedi ei gynhyrchu’n lleol a pha gyfleoedd eraill y maen nhw’n awyddus i’w gweld.”

Gallwch gwblhau’r arolwg yma. Y dyddiad cau yw Dydd Gwener Rhagfyr 17.

Mae arolygon ar wahân yn cael eu gwneud gyda busnesau yn y diwydiant bwyd a grwpiau cymunedol lleol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â nikki.williams@torfaen.gov.uk

Cynllun yn y DU yw rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a arweinir gan y Gymdeithas Tir, Food Matters a Sustain, a’r bwriad yw cysylltu partneriaethau bwyd a’i gilydd, rhannu arfer gorau ynglŷn â phob agwedd o fwyd iach a chynaliadwy a gyrru arloesi yn y sector bwyd.

Ariennir y prosiect Lle Bwyd Cynaliadwy drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, diolch i’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.



Diwygiwyd Diwethaf: 26/11/2021 Nôl i’r Brig