Ysgol Croesyceiliog yn cael ei thynnu allan o fesurau arbennig

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Tachwedd 2021

Ar ôl ymweliad arolygiad monitro yn ddiweddar, mae Ysgol Croesyceiliog wedi ei thynnu allan o fesurau arbennig.

Mewn llythyr at y cyngor yn ystod mis Tachwedd, dywedodd Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, Estyn: Bernir bod Ysgol Croesyceiliog wedi gwneud “cynnydd digonol” ac “nad yw’r ysgol angen mesurau arbennig bellach ".

Cyn hyn, rhoddodd arolygwyr Estyn yr ysgol mewn mesurau arbennig a barnu bod safonau yn llawer is na’r hyn a ddisgwylir, gyda barn gyffredinol o “anfoddhaol”.

Yn yr arolygiad gwreiddiol, dywedodd yr arolygwyr bod angen i’r ysgol ddelio gyda phum argymhelliad allweddol, ond ar ôl ymweliad monitro ym mis Tachwedd 2021, bernir bod yr ysgol nawr wedi gwneud cynnydd da mewn perthynas â holl argymhellion Estyn.

Canfu’r arolygwyr:

  • Mae’r ysgol wedi gweithio’n galed i godi cyrhaeddiad disgyblion a datblygu eu sgiliau, eu hannibyniaeth a’u gwytnwch. Mae gwaith disgyblion nawr yn llawer gwell nag adeg yr ymweliad monitro diwethaf.
  • Mae’r dysgu wedi gwella’n sylweddol ers yr ymweliad monitro diwethaf. Mae’r ysgol wedi datblygu dull mwy strategol, gyda mwy o ffocws, tuag at wella dysgu gyda rhaglen wedi ei chynllunio’n dda o weithgareddau dysgu proffesiynol a rhannu arferion da.
  • Roedd presenoldeb eisoes wedi gwella ac yn uwch na’r disgwyliadau yn 2019. Yn ystod y pandemig, mae’r ysgol wedi parhau i ddefnyddio ystod o strategaethau i gefnogi presenoldeb, yn enwedig presenoldeb y disgyblion hynny sydd fwyaf agored i newid.
  • Mae’r pennaeth gweithredol wedi cyfathrebu gweledigaeth gref ar gyfer gwella. Mae ei huchelgais a’i phenderfyniad yn cael eu deall yn dda a’u derbyn gan yr holl staff a’r corff llywodraethol. O ganlyniad, mae gan arweinwyr ledled cymuned yr ysgol ddealltwriaeth o’u rolau, ac mae gwelliannau mewn arweinyddiaeth wedi cael effaith bositif ar bron i bob maes o waith yr ysgol.
  • Mae’r ysgol wedi cryfhau trefniadau rheoli perfformiad yn llwyddiannus. Mae’r rhain nawr yn canolbwyntio yn benodol ar godi safonau a gwella’r ddarpariaeth, ac yn cysylltu’n glir gyda blaenoriaethau’r ysgol gyfan.
  • Mae trefniadau cryfach ar gyfer hunan-werthuso a gwella. Mae gan arweinwyr, ar bob lefel, ddarlun clir a realistig o’r cryfderau a’r meysydd ar gyfer datblygu.

Meddai’r pennaeth gweithredol, Mrs Lewis: “Mae cymuned yr ysgol, myfyrwyr, staff a’r corff llywodraethol oll yn haeddu’r adroddiad monitro positif iawn hwn. Ers i mi ddechrau arwain yr ysgol, rwyf wedi bod wrth fy modd gyda phenderfyniad holl aelodau cymuned ein hysgol i wella ansawdd cyffredinol addysg yng Nghroesyceiliog. 

“Rydym yn ffodus bod gennym adeilad ysgol gwych ac mae ein myfyrwyr a’n staff yn falch o’r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma. Ein nod yw adeiladu ar y cynnydd hwn, gan sicrhau ein bod yn darparu addysg gyfoethog ac atyniadol o fewn a’r tu allan o’r dosbarth, gan ddatblygu myfyrwyr sy’n garedig a gyda’r sgiliau, yr wybodaeth a’r nodweddion i arwain bywydau llwyddiannus.”

Meddai aelod gweithredol cyngor Torfaen ar gyfer addysg, y Cynghorydd Richard Clark: "Rydym wrth ein boddau gyda’r newyddion hwn, sy’n adlewyrchu ymdrechion cyfun yr ysgol gyfan. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at gael ysgol sy’n ganolfan o ragoriaeth lle mae gan y myfyrwyr, y rhieni a phawb yng nghymuned yr ysgol ddyheadau uchel ar gyfer pob dysgwr, ynghyd â gwaith dysgu rhagorol a chymorth i bob dysgwr.”

Dywedodd arweinydd cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda’r pennaeth gweithredol, llywodraethwyr yr ysgol a’r arolygwyr i gymryd pa bynnag gamau sydd eu hangen i wella pethau yn yr ysgol.

“Ansawdd addysg ein plant yw ein blaenoriaeth uchaf. Rhaid i mi ganmol y pennaeth am ei hynod a’r her i’r ysgol gyfan i yrru’r gwelliannau angenrheidiol.

“Serch hynny, nid yw’n stopio yma. Er bod gwelliannau gwirioneddol wedi eu gwneud, mae rhagor y mae angen i’r ysgol ei wneud i adeiladu ar y sylfaen a sefydlwyd."

www.estyn.llyw.cymru

Diwygiwyd Diwethaf: 25/11/2021 Nôl i’r Brig