Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Tachwedd 2021
Mae plant ysgol gynradd yn Nhorfaen wedi bod yn dysgu am ynni fel rhan o’r Bythefnos Diffodd, sy’n dod i ben ar ddydd Sul 21ain Tachwedd.
Eleni, cofrestrodd 25 o ysgolion yn Nhorfaen i gymryd rhan yn y Pythefnos Diffodd.
Ar ddiwedd y pythefnos, bydd ysgolion yn cael eu canlyniadau i weld faint o ynni maent wedi ei arbed.
Mae’r Pythefnos Diffodd yn ymgyrch genedlaethol bob mis Tachwedd i annog ysgolion i ddiffodd goleuadau a chyfarpar trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Y nod i ysgolion yw eu helpu i arbed ynni a monitro effaith newid ymddygiad pobl ar ddefnydd ynni’r ysgol.
Ymwelodd Swyddog Ynni’r Cyngor, Ceri Williams, ag ysgolion cynradd yn ystod y pythefnos i siarad am arbed ynni a newid yn yr hinsawdd.
Meddai Ella, sydd ym Mlwyddyn 6 ac yn aelod o eco-gyngor Ysgol Panteg: “Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu sut allwn achub y blaned a dysgu disgyblion eraill hefyd. Gallwn hefyd ymarfer yr hyn rydym yn ei ddysgu yn yr ysgol ac yn y cartref. Gall pawb wneud gwahaniaeth!”
Dywedodd Dr. Matthew Dicken, Pennaeth Ysgol Panteg: “Fel yr oedd COP26 yn cael ei gynnal, roedd yn gyfle da i feddwl am ein defnydd o ynni a’r camau y gallwn eu cymryd i amddiffyn ein planed. Rhaid i ysgolion arwain y ffordd ym mhob agwedd o greu cynaliadwyedd – ond yn fwy na hynny, diwylliant o ofalu.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol ar gyfer Addysg: “Mae hwn yn gyfle gwych i ysgolion a disgyblion ddeall sut y gall camau syml fel diffodd goleuadau pan nad oes eu hangen wneud gwahaniaeth mawr o ran defnyddio ynni.
“Mae ein swyddog ynni Ceri yn gwneud gwaith gwych o ysbrydoli disgyblion i fod yn fwy ymwybodol o ynni a bod yn esiamplau da i’w teuluoedd a’u ffrindiau.”
Mae ein ymgynghoriad ar yr argyfwng newid yn yr hinsawdd a natur yn dod i ben ar ddydd Sul 21ain Tachwedd felly cymerwch ran heddiw