Casgliadau gwastraff gardd yn dod i ben am y gaeaf

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Tachwedd 2021

Os ydych ar rownd gasglu A neu B, mae eich casgliad gwastraff gardd olaf yr wythnos hon ar eich diwrnod casglu arferol.

I’r rhai ohonoch ar rownd casglu C neu D, mae eich casgliad gwastraff olaf yr wythnos nesaf ar eich diwrnod casglu arferol.

Os nad ydych yn siŵr pryd mae eich diwrnod casglu, edrychwch ar ein system fapio

Os byddwch angen ailgylchu gwastraff gardd pan ddaw’r casgliadau ymyl y ffordd i ben, gallwch fynd ag o i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2021 Nôl i’r Brig