Dathlu a chefnogi gofalwyr

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Tachwedd 2021
carers rights day

Mae digwyddiad i ddathlu a chefnogi gofalwyr yn Nhorfaen yn cael ei drefnu i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr yr wythnos nesaf.

Estynnir gwahoddiad i ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am anwyliaid neu ffrindiau, i ganolfan lles newydd Cyngor Torfaen yng Nghwmbrân ddydd Iau, lle bydd llawer o help a gwybodaeth, yn ogystal ag adloniant byw.

Bydd Diwrnod Hawliau Gofalwyr eleni yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau gofalwyr di-dâl, felly bydd llawer o gyngor hefyd wrth law.

Mae arolwg diweddar gan Carers UK a gwblhawyd gan bron i 6,000 o ofalwyr wedi canfod bod pedwar ymhob pum o ofalwyr di-dâl yn darparu mwy o ofal i berthnasau, tra bod 78% yn adrodd bod anghenion yr unigolyn y maen nhw’n gofalu amdano, wedi cynyddu yn ystod y pandemig.

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Torfaen dros Wasanaethau Oedolion a Thai, “Y Diwrnod Hawliau Gofalwyr hwn, rydym am rymuso gofalwyr gyda gwybodaeth a chefnogaeth, fel y gallant deimlo'n hyderus i ofyn am yr hyn sydd ei angen arnynt. 

P'un a ydych chi'n ofalwr newydd neu wedi bod yn gofalu am rywun am gyfnod, credwn ei bod yn bwysig eich bod yn deall eich hawliau ac yn gallu cyrchu'r gefnogaeth sydd ar gael ichi cyn gynted ag y bydd ei hangen arnoch.”

Gwahoddir gofalwyr, yn ogystal â’r rheini y maen nhw’n gofalu amdanynt, i Dŷ Glas y Dorlan, ym Mryn Eithin, rhwng 11am a 3pm ddydd Iau 25 Tachwedd.

Cefnogir y digwyddiad gan fandiau lleol Pashy Pops a Chôr Caneuon Môr Bois y Bryn, yn ogystal â'r gwasanaethau cymorth canlynol:

  • Pobl
  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru
  • Hafan Cymru
  • Qualia Law   
  • Re-engage Wales   
  • Cymunedau Digidol Cymru
  • Natures Essence
  • Age Connects
  • Prosiect Cyngor ar Anabledd (DAP)
  • Cysylltwyr Cymunedol CBST              
  • Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen = Atgofion Chwaraeon
  • Bron Afon              
  • Connect 5 Iechyd Meddwl a Lles

Bydd y digwyddiad yn gyfle cyntaf i weld yr hwb lles newydd, sy'n gwbl hygyrch i bobl ag anableddau. Anelir i agor yr hwb ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Os ydych chi'n gofalu am rywun ac yn chwilio am wybodaeth i ofalwyr neu os ydych am ddarganfod mwy am eich hawliau, yna cadarnhewch eich presenoldeb drwy e-bostio CarerSupport@torfaen.gov.uk  neu ffoniwch 07966 301108.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2021 Nôl i’r Brig