Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17 Tachwedd 2021
Cynhaliwyd cyfarfod i lansio cynlluniau ar gyfer rhwydwaith newydd i lysgenhadon hinsawdd yn Nhorfaen neithiwr.
Daeth deuddeg o drigolion lleol i gwrdd â’r Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd, a Rachel Jowitt, swyddog arweiniol Cyngor Torfaen dros newid yn yr hinsawdd, i drafod y syniad o rwydwaith gymunedol.
Dywedodd Paul Stephens, o’r Dafarn Newydd: "Rwy’n wirioneddol bryderus am gynhesu byd-eang a cholli mannau gwyrdd. Rydym yn dinistrio’r unig blaned sydd gyda ni ond dyw llywodraethau ddim yn gallu gwneud pob dim.
"Mae gen i ddiddordeb mewn dysgu sut allwn ni leihau nifer y teithiau diangen mewn ceir ac mewn edrych ar gyfleoedd am randiroedd cymunedol."
Dywedodd Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl sy’n frwd o blaid lleihau allyriadau yn Nhorfaen.
"Newid yn yr hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu’r byd heddiw. Does dim un sefydliad sy’n gallu datrys her dod yn sero carbon net ar ei ben i hun ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r grŵp, a thrigolion, i fynd i’r afael â’r her o daclo newid yn yr hinsawdd."
Dywedodd Rachel Jowitt, prif swyddog Cyngor Torfaen dros Gymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: "Mae tair her yn ein hwynebu – i’r cyngor fod yn sero carbon net erbyn 2030, i Dorfaen fel sir fod yn sero carbon net erbyn 2050 ac atal colli bioamrywiaeth.
"Cafwyd nifer o sgyrsiau diddorol yn y cyfarfod am ddatgarboneiddio, trafnidiaeth, ailgylchu a lleihau gwastraff.
"Y cam nesaf yw i’r grŵp benderfynu beth fyddai rôl y llysgenhadon a sut fyddai’r rhwydwaith yn cefnogi’r cyngor a’r gymuned cyn cynnal cyfarfod arall yn gynnar y flwyddyn nesaf."
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith, danfonwch e-bost at cath.cleaves@torfaen.gov.uk
Gallwch ddweud eich dweud am yr hyn y gall Cyngor Torfaen a chymunedau wneud i leihau allyriadau carbon trwy gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein yma. Bydd yr ymgynghoriad yn cau'r dydd Sul yma.
Dysgwch fwy am yr her newid hinsawdd sy’n wynebu Torfaen trwy ymweld â’n gwefan, neu drwy ddilyn #CutTheCarbonTorfaen a #NurtureNatureTorfaen yn y cyfryngau cymdeithasol.