2021 Enillydd Sialens Ddarllen yr Haf

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2021

Bydd Archie Fielding, pump oed, yn gallu prynu llawer o lyfrau newydd ar ôl cwblhau sialens ddarllen genedlaethol.

Roedd Archie yn un o fwy na 450 o blant a gymerodd ran yn Sialens Ddarllen yr Haf 2021, Arwyr y BydGwyllt a gynhaliwyd gan Lyfrgelloedd Torfaen.

Cafodd Archie daleb o £100 yn anrheg i'w wario yn Smyths Toy Store ar ôl i’w enw gael ei ddewis ar hap o restr o 216 o blant a gwblhaodd y sialens.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gystadleuaeth genedlaethol sy'n cael ei rhedeg gan The Reading Agency ac a gyflwynir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd. Mae'r sialens yn annog teuluoedd i ymweld â'u llyfrgell leol yn ystod gwyliau'r Haf ac yn gofyn i blant 4-11 oed fenthyg a darllen unrhyw chwe llyfr llyfrgell yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd mam Archie, Nicole Fielding, 27: “Rydyn ni wir yn mwynhau ymweld â’n llyfrgell leol, ac fe wnaethon ni fwynhau Sialens Ddarllen yr Haf yn fawr.

“Roedd Archie yn falch iawn o ddarganfod ei fod wedi ennill y daleb ac mae'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y cyfle i'w wario.”

Cyflwynwyd y daleb i Archie, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam, ynghyd â thystysgrif a medal, a hynny yn ystod gwasanaeth arbennig yn yr ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Sgiliau, Economi ac Adfywio: “Mae darllen yn un o'r sgiliau bywyd hynod bwysig, ac os gallwn annog pobl ifanc i fwynhau darllen pan fyddant yn ifanc, gobeithio y byddant yn parhau i fwynhau darllen wrth iddynt fynd yn hŷn.

“Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran yn y sialens, yn enwedig Archie, a oedd yn ddigon ffodus i gipio'r goron eleni.”

Dysgwch mwy am y gwasanaeth llyfrgelloedd yn Nhorfaen ac ewch ati i’w dilyn ar Facebook a Twitter

 

 

cebook and Twitter

Diwygiwyd Diwethaf: 24/10/2022 Nôl i’r Brig