Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Tachwedd 2021
Bydd enwebiadau ar gyfer y cyntaf erioed o Wobrau Balchder Torfaen, yn cau ddydd Gwener yma.
Bydd y gwobrau'n cydnabod unigolion, grwpiau a chlybiau sy'n gwneud Torfaen yn lle gwell i fyw.
Eleni mae Cyngor Torfaen wedi ymuno ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a Thîm Datblygu Chwaraeon Torfaen i ehangu'r Gwobrau Arwyr Chwaraeon sydd wedi eu hen sefydlu erbyn hyn, a chydnabod cyfraniadau ehangach i fywyd yn y fwrdeistref.
Dyma’r categorïau ar gyfer gwobrau Balchder Torfaen 2021:
Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol - cydnabod pobl sy'n mynd i drafferth fawr i godi arian ar gyfer elusen a'r rhai sy'n helpu eraill yng nghymuned Torfaen.
Gwobr Chwaraeon Arloesol - dyfernir i glwb chwaraeon a ddaeth o hyd i ffyrdd creadigol o gadw cyswllt eu haelodau a'u cadw'n actif yn ystod 2021.
Gwobr Pobl Ifanc Ysbrydoledig - dyfernir i oedolyn ifanc sydd wedi ysbrydoli a chyflawni er gwaethaf adfyd.
Cyfraniad Eithriadol i Chwaraeon - dyfernir i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i chwaraeon yn Nhorfaen.
Gwobr Ymateb i COVID-19 – cydnabod cyflogwr lleol sydd wedi addasu, arallgyfeirio a mynd cam ymhellach yn ystod y Pandemig.
Gwobr Chwaraeon Cynhwysol - dyfernir i glwb neu unigolyn sydd wedi sicrhau eu bod yn cynnig diwylliant cynhwysol sy’n croesawu pob gallu.
Gwobr Clwb Chwaraeon y Flwyddyn - byddai Clwb y flwyddyn wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad eu camp.
Gwobr Arwr Tawel - dyfernir am ofal eithriadol yn y gymuned. Cydnabod unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan roi anghenion pobl eraill o flaen eu hunain naill ai mewn rhinwedd broffesiynol neu bersonol.
Entrepreneur y flwyddyn/Busnes bach y flwyddyn - cydnabod entrepreneuriaid neu fusnesau bach yn Nhorfaen. Cefnogir y wobr hon gan Dîm Economi a Mentergarwch Cyngor Torfaen.
Gwobr Cyflawniad Oes - dyfernir i rywun sydd wedi rhoi o'i amser ac wedi ysbrydoli pobl ledled Torfaen dros nifer o flynyddoedd.
Gwobr Balchder Torfaen 2021 (Gwobr Fawreddog) – dyfernir i oedolyn sy'n rhoi o'i amser, yn ddiflino i helpu eraill a gwneud Torfaen yn lle gwell i fyw.
I enwebu rhywun ewch i https://bit.ly/PrideOfTorfaen neu fe allwch ofyn am ffurflen ymgeisio drwy e-bost enquiries@torfaenleisuretrust.co.uk
Dywedodd Angharad Collins, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen: "Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn hynod arall. Rydyn ni am ddathlu a chydnabod yn ffurfiol y bobl wych ac ysbrydoledig sy'n gwneud Torfaen yn lle gwell i fyw.
Rydyn ni i gyd yn adnabod pobl, clybiau a grwpiau arbennig sy'n gwneud cyfraniad enfawr yn ein cymunedau a dyma eich cyfle i'w henwebu a dweud diolch.
Mae gennych chi bum diwrnod arall i enwebu! Peidiwch ag oedi ac ewch ati i enwebu!
Cyflwynir y gwobrau yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen ar yr 20fed o Ragfyr am 7pm.