Dod yn llysgennad hinsawdd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19 Hydref 2022

Daw cynhadledd newid yn yr hinsawdd y CU COP26 i ben y penwythnos yma ond rydym eisiau parhau gyda’r sgwrs yma yn Nhorfaen. 

Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Torfaen i sicrhau bod y fwrdeistref yn dod yn garbon sero-net erbyn 2050, hoffem sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon hinsawdd lleol.

Rydym yn chwilio am bobl o bob cefndir, sydd â diddordeb mewn canfod atebion creadigol, arloesol ac ymarferol i leihau a gwrthbwyso nwyon tŷ gwydr yn Nhorfaen.

Gallech fod yn fyfyriwr sy’n angerddol ynglŷn â newid yn yr hinsawdd; yn riant sengl sy’n chwilio am atebion ymarferol; efallai eich bod eisoes yn defnyddio technegau arloesol i leihau defnydd o nwy a thrydan yn y cartref, neu efallai bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth i helpu cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: "Fel cyngor, rydym eisoes wedi cychwyn ar ein taith i ddod yn garbon sêr-net, ac rydym yn gwybod bod llawer o unigolion a grwpiau wedi gwneud yr un peth. 

"Ond er mwyn cyflawni’r nod o ddod yn garbon sero-net erbyn 2050, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd a chefnogi ein gilydd.

"Hoffem sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon hinsawdd i fod yn llais i’w cymunedau, gweithio gyda ni i adnabod rhwystrau ac atebion i leihau allyriadau carbon a bwydo gwybodaeth i strategaethau yn y dyfodol."

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y rhwydwaith, bydd cyfarfod rhithwir ar ddydd Mawrth, Tachwedd 16 am 6pm. I gofrestru, ebostiwch louise.day@torfaen.gov.uk 

Gallwch hefyd leisio barn ar gynllun gweithredu drafft Cyngor Torfaen ar garbon sero-net yma.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Cyngor Torfaen yn ei wneud i ddelio gyda newid yn yr hinsawdd, ewch i’n gwefan yma. Gallwch hefyd ddilyn #TorriCarbonTorfaen a #MeithrinNaturTorfaen ar Facebook, Instagram a Twitter.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/10/2022 Nôl i’r Brig