Gosod Cyllideb i'r Cyngor ar gyfer 2022/23

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Tachwedd 2021

Yr wythnos hon, mae cynghorwyr wedi edrych ar gynlluniau cyllideb Cyngor Torfaen ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac hoffem ichi wneud yr un peth.

Mae disgwyl i’r adolygiad canol y flwyddyn o’r gyllideb, sy’n nodi faint mae’r cyngor yn disgwyl derbyn yn 2022/2023 a pha wasanaethau y maen nhw’n credu y byddan nhw eu hangen, ddangos diffyg o ran ariannu o ryw £1.5 miliwn.

Fel pob aelwyd yn y fwrdeistref, mae’n rhaid i’r cyngor reoli ei arian yn ofalus, gan baratoi ar gyfer yr hyn sy’n dod i mewn a’r hyn sy’n mynd allan pob blwyddyn i sicrhau bod y llyfrau’n gytbwys.

Ar ddechrau Ebrill 2021, dechreuon ni edrych ar faint y bydd yn costio i gyflenwi’n gwasanaethau i gyd yn 2022/23 a heriau cyflenwi’r gwasanaethau hynny, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod ni’n gallu mantoli’r cyfrifon eto.

Mae’r rhan fwyaf o’r hyn y mae’r cyngor yn gwario yn mynd at ofalu am bobl, gwasanaethau addysg a chynnal bwrdeistref lân a gwerdd.

Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld diffyg y mae angen eu gau. Yn ffodus, mae’r bwlch oedd gennym ni’n wreiddiol wedi ei leihau ac ar hyn o bryd yn y broses rydym wedi cyrraedd diffyg o ryw £1.5 miliwn.

Ar y pwynt yma yn y broses gyllidebu mae’n rhaid i ni adeiladu’n rhagolygon ar gyfer y gyllideb gyda nifer o dybiaethau o gylch faint y byddwn yn derbyn gan Lywodraeth Cymru, beth fydd cost talu pobl a beth fydd cost y nwyddau yr ydym yn prynu er mwyn cyflenwi’n gwasanaethau, gan gynnwys ystyried chwyddiant hefyd. Dyw’r hyn yr ydym yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru pob blwyddyn ddim yn ddigon i wneud pob dim, felly mae’r gweddill yn dod trwy fesurau effeithlonrwydd, arbedion, Treth y Cyngor a ffioedd.

Yn nes ymlaen yn y broses gyllidebu, pan fydd rhai o’r ffactorau anhysbys bellach yn hysbys, byddwn yn gofyn i chi eto am eich barn ynglŷn â’r hyn a fydd, rydym yn gobeithio, yn rhestr fach o arbedion a mesurau effeithlonrwydd i bontio’r bwlch.

Felly, ar adeg yma’r flwyddyn, rydym yn gofyn i chi:

* Beth allwn ni wneud yn wahanol?
* Ar beth ddylem ni fod yn gwario mwy?
* Beth ddylem ni fod yn stopio gwneud?
* Beth allwn ni leihau?
* Beth allem ni fod yn codi mwy o dâl amdano?

Mae ein rheolau ar gyfer ymgysylltiad yn syml: does dim syniadau gwael, byddwch yn radical, byddwch yn heriol a byddwch yn anturus! Gadewch i ni roi golau dydd ar ein syniadau i gyd er mwyn gweld ble allwn ni fynd!

Cymerwch ran yma

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/11/2021 Nôl i’r Brig