Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Tachwedd 2021
An ddigwydd ar ddydd Sul 14 Tachwedd, mae Diwrnod Coffa yn ddyddiad pwysig yng nghalendr y genedl,
Eleni, bydd gorymdeithiau Diwrnod Coffa yn ailgychwyn ym Mlaenafon, Cwmbrân, y Dafarn Newydd, Pontnewydd a Phont-y-pŵl.
Mae manylion llawn pob gorymdaith i’w gweld isod:
Blaenafon:
10.40am – Gorymdaith o faes parcio Broad Street gan fynd i lawr Broad Street ac Ivor Street i’r Senotaff
11.00am – Senotaff yn Church Road – Gosod torch a gwasanaeth yn y Senotaff.
Cwmbrân:
10.30am – Yr orymdaith yn ymgynnull yn y maes parcio yng nghefn Natale’s Barbers & Son oddi ar Wesley Street.
10.35am – Yr orymdaith yn mynd i Wesley Street. Bydd yr orymdaith yn mynd i lawr Wesley Street ac i gyfeiriad Parc Cwmbrân, gan stopio wrth y goleuadau cyn Henllys Way. Bydd y gorymdeithwyr wedyn yn mynd i’r Parc ar gyfer y Weithred o Goffa.
10:50am – Gwasanaeth Coffa ym Mharc Cwmbrân; bydd dau funud o dawelwch a bydd torchau yn cael eu gosod.
11.15am – Bydd yr orymdaith wedyn yn ail-ymgynnull i ddychwelyd i Wesley Street lle byddant yn dychwelyd i Eglwys Sant Gabriel.
Y Dafarn Newydd:
9.45am – Yr orymdaith yn ymgynnull yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, The Highway, y Dafarn newydd.
10.00am – Yr orymdaith yn symud i Eglwys y Santes Fair.
10.30am – Gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair.
11.20am – Yr orymdaith yn dychwelyd i Neuadd Eglwys y Santes Fair.
Pontnewydd:
10.25am - Yr orymdaith yn ymgynnull yng Nghlwb y Lleng Brydeinig Frenhinol, Station Road, Pontnewydd. Adrodd i Farsial yr Orymdaith Lt Ben Yuille RMR.
10.30am – Yr orymdaith yn mynd ar hyd New Street a Brooklands Terrace, Pontnewydd ar gyfer seremoni gosod torch a gwasanaeth yn y Senotaff.
10.45am – Yr orymdaith yn cyrraedd Senotaff Pontnewydd ar gyfer gwasanaeth gyda cherddoriaeth gan Fand Cwmbrân. Bydd dau funud o dawelwch am 11.00am.
11.10am – Yr orymdaith yn gadael, gan gael ei harwain gan Gorfflu Drymiau, ar hyd Richmond Road, Station Road, gan stopio yng Nghlwb y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Pont-y-pŵl:
11.45am – Yr orymdaith yn ymgynnull ar Commercial Street, Canol Tref Pont-y-pŵl. Adrodd i Farsial yr Orymdaith, Uwchgapten Neil Edmunds
12.00pm – Yr orymdaith yn gadael.
12.05pm – Cyrraedd gatiau’r Parc Coffa ar gyfer seremoni gosod torchau.
12.30pm – Yr orymdaith yn ail-ymgynnull a mynd ar hyd Hanbury Road i’r Clarence, gan ddychwelyd i’r Gofgolofn ar gyfer Edrych i’r Dde. Mynd ymlaen i Commercial Street, Canol Tref Pont-y-pŵl cyn ymadael.
Bydd ffyrdd yn cael eu cau am gyfnod o 30 munud cyn ac ar ôl i’r gorymdeithiau ddod i ben.