Wedi ei bostio ar Dydd Iau 4 Tachwedd 2021
Mae’r apêl nawr ar agor a bydd yn cau ar ddydd Iau 2il Rhagfyr 2021.
Mae Apêl Siôn Corn, a redir gan Wasanaethau Cymdeithasol Torfaen, yn rhoi cyfle i bawb gyfrannu anrhegion i blant a phobl ifanc a fyddai, fel arall, yn colli allan dros y Nadolig.
Gellir cyfrannu anrhegion drwy ffonio 01633 647539 rhwng 9.00am a 4.00pm, Llun - Iau.
Byddwch yn cael enw, oedran a rhif cyfeirio ar gyfer plentyn/person ifanc. Rhaid nodi’r manylion hyn ynghlwm wrth yr anrheg, a dylid ei adael heb ei lapio.
Gellir hefyd cyfrannu eitemau bwyd annarfodus i wneud basgedi bwyd i bobl ifanc 16 oed a throsodd sy’n byw ar eu pennau eu hunain. Mae nifer o bwyntiau casglu ar gael ledled y fwrdeistref, gan gynnwys:
TYPSS, The Studio, Stad Fusnes Oldbury, Cwmbrân NP44 3JU
Dydd Mawrth - 9.00am – 5.00pm
Canolfan Siopa Cwmbrân, Desg Gwasanaethau Cwsmeriaid (ger Specsavers/Wilco)
Dydd Mawrth - 1.30pm – 4.00pm
Y Ganolfan Ddinesig, , Glantorvaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YN
Dydd Mawrth – 10.00am – 2.30pm
Dydd Iau – 10.00am – 2.30pm
Partneriaeth Garnsychan, 55 Stanley Road, Garndiffaith, NP4 7LH
Dydd Iau - 11.00am - 3.00pm
Circulate, Blaenafon
Dydd Mawrth - 10am -2pm
Co-star, Neuadd Gymunedol Threepenny Bit, Cwmbrân, NP44 4SX
Dydd Llun - 10.00am – 2.00pm
Llyfrgell Cwmbrân
Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener – 9am – 5pm
Dydd Sadwrn – 9am – 4pm
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
Dydd Llun – 8am – 3pm
Dydd Mawrth i ddydd Gwener – 8am – 5pm
Dydd Sadwrn – 8am – 4pm
Dylid mynd â rhoddion i’r pwyntiau casglu ddim hwyrach na dydd Llun 6ed Rhagfyr. Oherwydd cyfyngiadau Covid, ni dderbynnir rhoddion ar ôl y dyddiad hwn.
Ni ddylai unrhyw un sydd â symptomau Covid fynd i’r pwyntiau casglu.