Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 3 Tachwedd 2021
Bydd gwaith i greu ardal newydd i’r sawl sy’n frwdfrydig am fywyd gwyllt yn cychwyn yn y man ar hyd y gamlas yng Nghwmbrân.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys llwyfan trochi pyllau newydd, a seddau ar hyd y gamlas ger Parc Pontnewydd, ynghyd â gwell llwybrau troed a phont droed newydd i’r parc.
Bydd mynedfa newydd wedi’i thirweddu i mewn i’r parc hefyd yn cael ei hadeiladu er mwyn agor y gamlas i ymwelwyr.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Economi a Sgiliau: “Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ardal, ac rwy’n gobeithio y bydd trigolion lleol ac ymwelwyr yn eu mwynhau.
“Ni fyddai unrhyw rai o’r gwelliannau hyn wedi bod yn bosibl heb gyllid, a dyma pam yr hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cymorth parhaus.”
Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Triongl Antur Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Ei nod yw datblygu gweithgareddau adloniant awyr agored, twristiaeth a hamdden ar hyd y gamlas yn Nhorfaen a Chaerffili a chysylltu ardaloedd ucheldiroedd Mynydd Maen.
Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, yn llwyddiannus yn cael cyllid gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso i Gymru, ynghyd â Chyllid Cyfatebol a Dargedir.
Mae’r Rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yn cynnwys 13 o brosiectau rhanbarthol wedi’u blaenoriaethu, gyda’r nod o greu cyrchfannau deniadol i yrru diddordeb yng Nghymru fel cyrchfan wyliau i ymwelwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd.