Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Mai 2021
Mae Cyngor Torfaen yn galw ar grwpiau a mudiadau cymunedol sy’n ailddechrau ar ôl cyfyngiadau’r pandemig i roi gwybod i bobl eu bod ar agor eto.
Ar hyn o bryd gall hyd at 15 o bobl gwrdd dan do yng nghanolfannau cymunedol Torfaen, mewn neuaddau pentref, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd. Disgwylir i gyfyngiadau pellach gael eu llacio o ddydd Llun Mai 17 ymlaen pan fydd niferoedd yn codi i 30 o dan do.
Ond efallai bydd y cyfyngiadau cadw pellter sy’n parhau mewn grym yn golygu y bydd angen i rai grwpiau newid sut, pryd neu ble y maen nhw’n croesawu trigolion eto.
Un ffordd gall mudiadau roi gwybod i bobl eu bod ar agor, a hysbysu aelodau o newidiadau yw trwy lanlwytho’u manylion i wefan Dewis Cymru.
Mae Dewis Cymru yn cynnig cyngor ar iechyd a lles, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer grwpiau ar draws Cymru fel dosbarthiadau celf, grwpiau cefnogaeth a thimau chwaraeon fel Valleys Gymnastics sydd wedi dechrau croesawu grwpiau. Gall trigolion chwilio am grwpiau a gweithgareddau yn agos i’w cartrefi gan ddefnyddio’u cod post.
Dywedodd Emma Davies-McIntosh, Arweinydd Rhwydwaith Lles Integredig Torfaen: “Er bydd rhai grwpiau’n parhau i gyfarfod ar-lein, mae’n wych bod grwpiau’n dechrau eto a gall pobl gwrdd wyneb yn wyneb eto os ydyn nhw’n barod.
“Er mwyn cwrdd yn fyw, efallai bydd rhai i rai grwpiau newid y dyddiad neu’r amser y maen nhw’n cyfarfod gan ei fod yn bwysig bod gweithgareddau’n cael eu cynnig mewn ffordd sy’n sicrhau diogelwch pawb.
“Mae lanlwytho’r wybodaeth ddiweddaraf i wefan Dewis Cymru’n ffordd dda o gadw mewn cysylltiad ag aelodau a rhoi gwybod i eraill eich bod wedi ailddechrau.”
Gall grwpiau yn Nhorfaen sydd â diddordeb mewn gwybod am Ddewis Cymru gymryd rhan mewn bore coffi rhithwir dydd Mawrth, Mai 18 am 10am, neu ddydd Llun Mai 24 am 1.30pm. I gofrestru, danfonwch e-bost at ABB.WellbeingTraining@wales.nhs.uk
I lanlwytho’ch gwybodaeth i wefan Dewis Cymru ewch i https://www.dewis.cymru/how-do-i-add-my-information-to-dewis-cymru Am y cyngor diweddaraf am goronafeirws, ewch i https://llyw.cymru/coronafeirws