Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Mai 2021
Eleni mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru’n gofyn i’r cyhoedd chwilio, canfod a rhannu eu storïau natur a’u profiadau yn ystod Wythnos Natur Cymru (29 Mai – 6 Mehefin).
Pob diwrnod byddan nhw’n dwyn i sylw cynefinoedd gwahanol a’r rhywogaethau niferus sy’n gallu byw yno.
Mae PBC yn dechrau gyda’r BioBlitz Gardd boblogaidd ar 29 Mai - felly cofiwch ymuno! Bydd cyngor defnyddiol a chefnogaeth o’r tîm o arbenigwyr yn sicrhau fod cymryd rhan yn hwyl ac yn llawn gwybodaeth.
Ar 5 Mehefin bydd PBC yn dathlu Partneriaethau Natur Lleol fel y gall trigolion weld beth sy’n digwydd yn eu hardaloedd lleol a dysgu sut allan nhw helpu.
Mae diwrnod hamddenol o ganolbwyntio ar les a natur yn cwblhau arlwy eleni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eu hamserlen a’u sianelau cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.
Dilynwch Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ar Twitter @WBP_wildlife
Dysgwch ragor am y digwyddiadau ar gyfer Wythnos Natur Cymru trwy fynd at www.biodiversitywales.org.uk