Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Mai 2021
Mae pobl yn Nhorfaena Chymru’n cael eu hannog i ‘fod yn rhan o’r codi’ ac ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2021.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Maen nhw’n galw ar unigolion, teuluoedd, ysgolion a grwpiau cymunedol ffurfiol i lanhau’r strydoedd, parciau neu draethau sydd ar eu stepen drws rhwng 28 Mai a 13 Mehefin.
Mae dros 200 o ddigwyddiadau tacluso wedi eu cofrestru yng Nghymru ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru, sy’n rhan o 'Caru Cymru' - y fenter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.
Mae Caru Cymru wedi derbyn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygiad Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Lesley Jones:
“Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae ein mannau awyr agored wedi bod o fwy o bwys i ni nag erioed.
“Maen nhw wedi bod yn noddfa yn ystod amserau heriol, ac o 28 Mai – 13 Mehefin 2021, byddwn yn galw ar ein cymuned o arwyr sbwriel i ymuno â ni a dangos cariad at y mannau arbennig hynny sydd wedi’n helpu trwy’r cyfnod clo.”
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr aelod gweithredol dros yr amgylchedd: “Pob blwyddyn yr ydym wedi trefnu digwyddiadau Gwanwyn Glân, mae gwirfoddolwyr wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo’u bod wedi cyflawni rhywbeth sylweddol.
“Er bod digwyddiadau’n mynd i fod rhywfaint yn wahanol eleni oherwydd Covid, rydym ni mor falch eu bod yn dal i ddigwydd.
Mae Gwanwyn Glân Cymru hefyd yn rhan o Ymgyrch Glanhau Prydain Fawr. Am y tro cyntaf erioed, rydym yn gofyn i wirfoddolwyr addo hyn a hyn o funudau y byddan nhw’n treulio’n glanhau eu hardal leol. Bydd hyn yn cael ei drosglwyddo’n filltiroedd ac yn cael ei ychwanegu at gyfanswm y DU. Y bwriad yw cerdded miliwn o filltiroedd gyda’n gilydd.
Eleni, mae’n rhaid i bawb sydd am gymryd rhan gofrestru am docyn i wneud hynny, ac os nad oes gennych chi docyn ar y diwrnod, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y digwyddiad. Cyfyngir tocynnau i 15 ar gyfer pob digwyddiad, gan gynnwys cydlynydd digwyddiad Cadwch Gymru’n Daclus.
Wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru, rydych yn cytuno i ddilyn cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch Cadwch Gymru’n Daclus; dilyn cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a chadw at ofynion hylendid Cadwch Gymru’n Daclus.
Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â Tom Board trwy Thomas.board@keepwalestidy.cymru neu ar 07824504818
I addunedu amser a chymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus https://www.keepwalestidy.cymru/cy
I weld pa ddigwyddiadau a fydd yn Nhorfaen ewch i https://tocyn.cymru/cy/event/e1d90dfb-60aa-4908-9b00-ff1fd1281c8b