Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Mai 2021
Yn ystod Wythnos Fyd-eang Diogelwch Ffordd (17-23 Mai), gweithiodd y cyngor mewn partneriaeth a Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i redeg sesiynau Gweithrediad Options. Roedd y sesiynau yn pwysleisio peryglon peidio â gwisgo gwregys diogelwch wrth yrru, ac yn caniatáu i bartneriaid ymgysylltu gyda’r gyrwyr a’r teithwyr hynny sy’n torri’r gyfraith drwy beidio â gwisgo gwregysau diogelwch.
Cynigiwyd opsiwn i ddefnyddwyr ffordd a oedd yn torri’r gyfraith o dderbyn dirwy am y drosedd neu fynychu sesiwn addysgol gan y gwasanaeth tân.
Roedd gyrwyr a theithwyr nad oeddynt yn gwisgo gwregys diogelwch yn wynebu dirwy yn y fan a’r lle o £100.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad yn ystod yr wythnos, a dewisodd 74 o bobl fynychu’r sesiynau addysgol, derbyniodd 3 o bobl y ddirwy, ac atafaelwyd 2 gerbyd.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Mae diogelwch ar y ffordd mor bwysig, ac mae peidio â gwisgo gwregys diogelwch ymhlith y 5 prif achos o farwolaethau mewn gwrthdrawiad.
“Rydym yn gobeithio bod y 74 o bobl a fynychodd y sesiwn addysgol nawr yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch”
Rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ar y ffordd yn Nhorfaen