Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Mai 2021
Fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth, cafodd gofalwyr maeth gydag awdurdodau lleol Gwent gynnig hael o ddau rownd golff gan Westy’r Celtic Manor.
Derbyniodd nifer o dadau maeth y cynnig a chawson nhw rai oriau i ymlacio ar gwrs golff yr Heol Rufeinig.
Mae awdurdodau lleol yn gwerthfawrogi eu gofalwyr maeth i gyd ond yn cydnabod hefyd bod cefnogaeth cymheiriaid yn bwysig yn enwedig gan fod nifer o bobl yn gweld y rôl yn un sy’n draddodiadol yn un benywaidd.
Ein profiad yw bod pobl o nifer o gefndiroedd gwahanol yn gallu cynnig cariad, diogelwch a chartref hapus i blant a phobl ifanc.
I rai plant, gall dynion sy’n maethu fod ymhlith y rolau gwrywaidd cadarnhaol cyntaf yn eu bywydau ac maen nhw’n gallu chwarae rôl bwysig wrth ffurfio eu dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross, “Mae’n dda clywed bod mwy o ofalwyr maeth gwrywaidd yn derbyn cydnabyddiaeth deilwng am eu rôl bwysig fel gofalwyr maeth, boed fel gofalwr sengl, neu fel rhan o bâr.
Yn Nhorfaen, fel rhan o’n hymrwymiad i gynnig cefnogaeth i ofalwyr maeth a’u teuluoedd, rydym yn edrych ar ffyrdd o helpu dynion i deimlo bod mwy o gefnogaeth iddyn nhw oherwydd ein bod ni’n deall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu. Rydym yn ystyried a fyddai Grŵp Cefnogaeth Men Who Care yn fuddiol a byddem yn croesawu unrhyw awgrymiadau eraill ynglŷn â sut allwn ni roi cefnogaeth.”
Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae maethu’n newid bywydau. Mae’n mynd eleni o heddiw tan 23 Mai a’r thema yw #DynaPamOfalwn