'Mentro Gyda'n Gilydd'

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Mai 2021
Get There Together - News Piece Image 2

Yn ystod ‘Wythnos Gweithredu Dementia’ (17 – 23 Mai 2021) yng Ngwent, hoffai Cyngor Torfaen hyrwyddo’n rhan yn y Cynllun Enghreifftiol Cenedlaethol ‘Mentro Gyda’n Gilydd’.

Arweinir y cynllun gan y Dr. Natalie Elliott, Ymgynghorydd Cenedlaethol Arweinydd PPI ar gyfer Dementia, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae’r cyngor wedi bod yn cydweithio i ddatblygu adnoddau fideo a thaflenni i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr i gefnogi adfer gweithgaredd cymdeithasol a defnyddiol, wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio. 

Cyflwynodd cynllun 'Mentro Gyda’n Gilydd' y cyfle i weithio gyda nifer o fusnesau mawr y stryd fawr fel Costa Coffee, WH Smith a Specsavers, gan gynnwys archfarchnadoedd fel Asda, Tesco a Sainsbury. Rydym wedi gweithio hefyd gyda Thrafnidiaeth Casnewydd a Stagecoach i ddatblygu clipiau a sefydliadau eraill fel hybiau gofalwyr, meddygfeydd teulu, fferyllfeydd a llyfrgelloedd.

Mae’r ffilmiau rhyw ddwy funud o hyd ac wedi eu cynllunio’n arbennig ar gyfer pob lleoliad i gynnwys trosleisio, lluniau a thestun i helpu pobl sydd am gyfarwyddo gyda’r newidiadau o ganlyniad i Covid 19.

Mae’r fideos yn galluogi pobl i weld mesurau diogelwch newydd, fel systemau un ffordd, arwyddion cadw pellter cymdeithasol a sgriniau clir, a allai peri dryswch ar y cychwyn. Mae’r clipiau fideo wedi eu cynhyrchu ochr yn ochr â phobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, a nododd ble roedd angen clipiau a pha gynnwys byddai o gymorth ac yn gefnogol.

Mae dros 30 o glipiau wedi eu datblygu hyd yn hyn ar draws Gwent a roeddem yn ffodus iawn o gael myfyrwyr Therapi Galwedigaethol anhygoel o Brifysgol Caerdydd i ddatblygu’r rhan fwyaf o’r rheiny yn ystod eu lleoliadau gyda BIPAB.

Cydlynir y cynllun yng Ngwent gan Dîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent ac mae’r pwyllgor llywio’n cynnwys partneriaid o’r 5 Awdurdod Lleol gan gynnwys aelodau etholedig, BIPAB, Cymdeithas Alzheimer, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Heddlu Gwent, Gofal Cymdeithasol Cymru, Pontydd, Breaking Barriers Community Arts, Canolfan Cwmbrân, Canolfan Pontydd Mynwy a’r Amgueddfa Genedlaethol.

Dywed Cynghorydd Casnewydd, Paul Cockeram, sy’n aelod o is-grŵp Gwent, “Fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, rydym yn ystyried bod Dementia’n flaenoriaeth uchel. Mae hyn wedi arwain at fuddsoddiadau sylweddol trwy ein rhaglen Cronfa Gofal Integredig, sydd wedi arwain at ddeilliannau cadarnhaol i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.”

Dywed Cynghorydd Caerffili, Carol Andrews, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp, “Fel hyrwyddwr Dementia CBSC mae’n hynod o bwysig i mi ein bod yn codi ymwybyddiaeth am bobl sy’n byw gyda Dementia. Ar ôl llacio cyfyngiadau, mae pawb yn betrusgar am ddychwelyd at normal ac mae’r prosiect yma’n gymorth i dawelu meddyliau, gyda chlipiau fideo hawdd eu dilyn.  Mae hi wedi bod yn anrhydedd cymryd rhan a helpu i greu adnodd anhygoel i bobl Cymru, yn enwedig yng Ngwent”.

Mae’r prosiect yn tyfu o hyd ac rydym yn croesawu unrhyw bartneriaid newydd sydd am gymryd rhan. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Natasha.Harris@torfaen.gov.uk

Mae’r prosiect wedi ennyn diddordeb BBC Wales gyda chyfweliad gyda’r Dr Elliott mewn darn newyddion am unigrwydd ac mae’n cael ei hyrwyddo hefyd gan y Gymdeithas Alzheimer yn adran newyddion diweddaraf eu gwefan.-https://www.alzheimers.org.uk/news/2021-05-12/get-there-together-videos-support-people-dementia-wales-coronavirus

Rydym yn falch iawn o weld lansio’r prosiect y mis yma ac mae’r adnoddau nawr ar wefan ar wefan Dewis Cymru.

Dysgwch ragor yn https://rb.gy/lkzstg

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2021 Nôl i’r Brig