Wedi ei bostio ar Dydd Llun 17 Mai 2021
Mae aelodau o grŵp cymorth LHDTQ i bobl ifanc wedi croesawu ymrwymiad Cyngor Torfaen i gefnogi amrywiaeth rhyweddol a hyrwyddo cydraddoldeb.
Sefydlwyd grŵp Kings, Queens and Everyone In Between gan wasanaeth ieuenctid y cyngor llynedd i gynnig lle diogel i bobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a’u ffrindiau gyfarfod.
Ar ddiwrnod Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia , dywedodd un o’r sylfaenwyr Hollie-Mai, a ddatganodd ei bod yn drawsrywiol chwe blynedd yn ôl, bod y grŵp yn cynnig cefnogaeth hanfodol.
Dywedodd: “Mae’r grŵp wedi rhoi cyfle i fi fod yn fi’n hunan heb unrhyw feirniadaeth. Mae’r gweithwyr ieuenctid wedi cynorthwyo’n fawr iawn pan oeddwn eu hangen ac wedi gadael i mi godi llais mewn lle diogel.
“Rwy’n gweithio’n agos â nhw ar sail un wrth un ac maen nhw’n fy helpu gyda fy emosiynau ac i dderbyn pwy ydw i.
“Mae’r grŵp yn anhygoel ar gyfer helpu i addysgu pobl am y problemau mae’r gymuned yn eu hwynebu.”
Ychwanegodd Kiara: “Dydw i ddim yn rhan o’r gymuned LHDTQ+ ond fe ymunais â’r grŵp gyda fy ffrind gorau sy’n rhan o’r gymuned. Rydw i wedi gweld cymaint mae’r grŵp yma wedi helpu fy ffrindiau ac maen nhw wedi fy nysgu i sut i ddangos fy nghefnogaeth.”
Mae’r grŵp hefyd wedi croesawu hyfforddiant newydd a gynigir i staff Cyngor Torfaen sy’n gweithio mewn addysg neu’r gwasanaeth ieuenctid, fel rhan o gynllun Stonewall Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’r modiwl e-ddysgu yn anelu at roi i staff y modd o herio stereoteipiau rhywedd a hyrwyddo cydraddoldeb.
Dywedodd Libby Martin, gweithiwr ieuenctid a gwblhaodd yr hyfforddiant yn ddiweddar: “Roeddwn i’n gwybod bod labelu rhywun yn gallu eu cynhyrfu, ond fe wnaeth y cwrs helpu i bwysleisio sut gall geiriau eraill a allai fod wedi cael eu defnyddio fel jôc, effeithio ar hyder pobl hefyd.
“Mae e wedi rhoi’r sgiliau i fi herio iaith o’r fath ac esbonio’r effaith mae’n gallu cael. Rydw i eisoes wedi defnyddio peth o’r hyn yr wyf wedi dysgu yn rhai o’r grwpiau rwy’n eu trefnu.”
Dywedodd y Cynghorydd David Yeowell, aelod gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraeth Gorfforaethol a Pherfformiad, sy’n cynnwys cyfrifoldeb am gydraddoldeb: “Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i daclo rhagfarn ymwybodol ac anymwybodol ac mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y tair blynedd nesaf yn amlinellu sut yr ydym yn bwriadu cefnogi unrhyw un sy’n cael eu hanfanteisio gan y gymdeithas ehangach, dim ond o achos eu hunaniaeth.”
I ddysgu mwy am Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, ewch i https://may17.org/st Homophobia, Transphobia and Biphobia visit https://may17.org/