Taith Gerdded Les Dynion Sy'n Gofalu

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 17 Mai 2021
men who care wellbeing walk

Fel rhan o ymgyrch Pythefnos Gofal Maeth eleni, mae Cyngor Torfaen wedi ymuno a thimau maethu awdurdodau lleol eraill ledled rhanbarth Gwent i gynnal Taith Gerdded ranbarthol Dynion Sy’n Gofalu ym Mharc Pont-y-pŵl.

Daeth y pump awdurdod lleol at ei gilydd i gynyddu ymwybyddiaeth o rym trawsnewidiol maethu ac i ddathlu’r gymuned faethu, yn enwedig y dynion sy’n ofalwyr maeth gyda’r awdurdod lleol.

Bydd y daith les yn rhoi cyfle i’r dynion sy’n ofalwyr maeth rannu gyda’r byd #PamRydymYnGofalu.

Mae Ymddiriedolaeth Hamdden yn garedig wedi darparu lle yn yr awyr agored, ynghyd â diodydd a bag o anrhegion i bob gofalwr maeth awdurdod lleol.

Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut y gall gofal maeth drawsnewid bywydau. Eleni, cynhelir Pythefnos Gofal Maeth o’r 10fed tan y 23ain Mai.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/05/2021 Nôl i’r Brig