Cyngor Torfaen yn rhoi blodau

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Mai 2021
foster carers

Yr wythnos hon, mae bron i 200 tusw o flodau wedi eu dosbarthu â llaw i ofalwyr maeth gan dîm lleoli teuluoedd Torfaen, fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth.

Ymwelodd aelodau’r tîm â 195 o ofalwyr maeth ac anfon tocynnau i eraill fel gair o ddiolch am y gwaith maent yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn.

Ar ôl derbyn y blodau, dywedodd Tony, sydd wedi bod yn maethu gyda’i wraig Bridget ers mis Medi 2012 “Os gallwn wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc, rydym eisiau cynnig hynny. Cefais i fy maethu fel plentyn ac roedd gofalwr gwrywaidd â wnaeth gyfraniad mawr i fy ngofal ac os gallaf wneud hynny i rywun arall, yna rwyf eisiau gwneud hynny.

“Gweld plant rydych wedi gofalu amdanyn nhw yn llwyddo mewn bywyd. Mae un ferch y buom yn gofalu amdani wedi gwireddu ei breuddwyd i fynd i weithio mewn gofal cymdeithasol ac rwy’n falch o’i llwyddiannau."

Mae pennaeth gwasanaethau plant a theuluoedd y cyngor, Jason O’Brien, hefyd wedi ysgrifennu at y 195 o ofalwyr maeth ledled Torfaen i ddiolch iddyn nhw am helpu i rhoi cychwyn gwell mewn bywyd i bobl ifanc.

Ynddo, dywedodd: "Mae’r teimladau rwyf eisiau eu mynegi i bob un ohonoch yn parhau i fod yn ddidwyll ac o’r galon ac rwy’n gwybod bod hynny yn cael ei adlewyrchu gan bob aelod o staff gwasanaethau cymdeithasol rydych yn dod i gysylltiad â nhw."

Mae Cyngor Torfaen yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol Pythefnos Gofal Maeth sy’n rhedeg tan ddydd Sadwrn 23 Mai, gan gynnwys goleuo adeiladau’r cyngor, Taith Gerdded Lles Dynion sy’n Gofalu a Diwrnod Golff Dynion sy’n Gofalu.

Hefyd mae llawer o ddeunydd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Torfaen drwy gydol y pythefnos. 

Meddai Kirsty Cooke, Rheolwr Maethu Torfaen, “Mae galw cynyddol am ofalwyr maeth er mwyn diwallu anghenion y Plant sy’n Derbyn Gofal yn Nhorfaen.

“Rydym angen gofalwyr maeth cymeradwy o bob cefndir, beth bynnag yw statws eich perthynas, rhywioldeb, rhyw neu os ydych yn gweithio, wedi ymddeol neu’n byw mewn tŷ ar forgais, wedi ei rentu neu eiddo cymdeithas dai. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, peidiwch a phetruso i gysylltu â ni.”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda’r awdurdod lleol, ffoniwch 01495 766697 neu ewch i www.torfaen.gov.uk/fostering

Diwygiwyd Diwethaf: 04/10/2021 Nôl i’r Brig