Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 14 Mai 2021
Ar ôl pum mis a hanner o ymarfer, cafodd un o staff y cyngor, Alex Jones, gyfle o’r diwedd i roi ei meddwl a’i chorff ar waith mewn Marathon Eithaf 24 awr, llym, gan godi dros £4,700 i’r Samariaid.
Dros gyfnod penwythnos Gŵyl y Banc, dechreuodd a gorffennodd Alex yr her llethol ym Mharc Pont-y-pŵl, gan redeg cyfanswm o 80 milltir – cyfystyr â rhedeg tri marathon, un ar ôl y llall.
Dilynodd Alex dri thrywydd yn ardal Pont-y-pŵl, nifer o weithiau yn ystod y cyfnod o 24 awr.
Er mwyn paratoi ar gyfer yr her anferth, cafodd Alex hyfforddiant gan Ray Morgan – Hyfforddwr Personol a Therapydd Tylino Chwaraeon yn Stadiwm Cwmbrân, a baratôdd gynllun hyfforddiant caled iddi dros 22 wythnos.
Roedd yr hyfforddiant yn golygu rhedeg chwe diwrnod yr wythnos dros bellterau amrywiol, o 3 milltir i 32 milltir, ac ar uchafbwynt ei hyfforddiant, roedd Alex yn rhedeg tua 75 milltir yr wythnos.
Roedd diwrnodau eraill yn cynnwys llwybrau gwlyb, niwlog ar y mynyddoedd, gwaith cyflymder, gwaith cryfhau a ioga – a helpodd osgoi anafiadau.
Chwaraeodd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen eu rhan ar y diwrnod trwy roi mynediad i Alex i Ganolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl dros nos i fwyta, newid dillad a derbyn triniaeth.
Dywedodd Alex: “Yn ystod y 5 mis o ymarfer, gofynnais i fy hun sawl gwaith pam oeddwn i’n gwneud hyn. Roedd yr hyfforddiant ei hun yn llawer mwy anodd na’r her ei hun – roedd rhaid i fi ffitio ymarfer o gwmpas gwaith, teulu a’r brifysgol. Mewn un sesiwn, roeddwn i’n rhedeg 28 milltir yn yr eira ym Mlaenafon, roedd yn galed tu hwnt ac fe rhewodd fy ngwallt!
“Ar y diwrnod, ymunodd rhedwr arall â fi ar ôl rhyw 25 munud ac ar ôl hynny, doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun o gwbl yn ystod y 24 awr. Roedd gen i rywun newydd i redeg â nhw pob rhyw ychydig o oriau.
“Mae cwblhau’r her yma nid yn unig wedi rhoi synnwyr i mi fy mod i wedi cyflawni gorchest, ond mae hefyd wedi rhoi sicrwydd i mi fy mod yn gallu bod yn drech na heriau. Ar ôl amser hir o frwydro gydag iechyd meddwl, rydw i wedi cyflawni rhywbeth o’r diwedd a oedd unwaith yn ymddangos fel her anferth.”
Yn ei rôl fel Swyddog Polisi a Phrosiectau gyda Thîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent, mae Alex yn cefnogi’r gwahanol flaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gyrru newid a gwelliant.
Y tu allan i’r gwaith, mae Alex yn rhedwraig brwd ac wedi rhedeg yn gymdeithasol ers nifer o flynyddoedd. Mae hi wedi bod yn aelod o Redwyr Pont-y-pŵl a’r Cylch ers tua pedair mlynedd ac wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau lleol.
Dewisodd Alex redeg ar ran y Samariaid oherwydd nawr, yn fwy nag erioed, mae angen rhoddion arnyn nhw i roi cefnogaeth a chymorth i arbed cymaint o fywydau â phosibl. Mae Coronafeirws wedi effeithio ar ein bywydau ni i gyd ac mae’r pandemig yma wedi bod ymhlith yr heriau mwyaf i’r Samariaid hyd yma.
Cyn i’r Coronafeirws daro, roedd gan y Samariaid 20,000 o wirfoddolwyr yn ateb galwadau am gymorth pob chwe eiliad. Gallai hyn fod yn rhywun yr ydych chi’n eu hadnabod, naill ai’n aelod o’r teulu neu’n ffrind, a allai fod ag angen cymorth ar frys ond nid ydynt yn gallu siarad â rhywun ganol nos
Os nad ydych chi wedi gwneud eisoes, gallwch roi i gefnogi Apêl Argyfwng y Samariaid trwy fynd at: www.justgiving.com/fundraising/alex-jones86
O bob £1 sy’n cael ei chodi, mae 75c yn mynd tuag at hyfforddi gwirfoddolwyr i dderbyn galwadau ac mae 25c yn mynd yn ôl at ymgyrchu a marchnata i godi ymwybyddiaeth.
Trwy roi at yr achos, bydd yn gymorth i’r Samariaid recriwtio rhagor o wirfoddolwyr a gallai hyn, yn y pen draw, newid bywyd rhywun sydd eu hangen yn fawr.