Wedi ei bostio ar Dydd Llun 10 Mai 2021
Mae heddiw, dydd Llun 10 Mai 2021, yn nodi lansio Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, wythnos genedlaethol y DU i gynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Mae’r wythnos, sy’n cael ei chynnal gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, y 21ain bellach ac eleni, y thema ar gyfer yr wythnos yw ‘Natur’ a sut gall cysylltu â’r byd naturiol helpu gydag iechyd meddwl da.
Ar draws y wlad, bydd pobl yn dathlu’r manteision iechyd meddwl o fod o gwmpas natur yn eu cymuned leol mewn amrywiol ddulliau digidol a chreadigol.
Yn Nhorfaen, mae’r cyngor yn annog trigolion i gymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yma drwy rannu ffotograffau, fideos neu recordiau sain o ‘natur ar y rhiniog’ a sut mae hyn yn gwneud i chi deimlo.
Gobeithir y bydd yr ymgyrch yn ysbrydoli pawb i gysylltu mwy â natur bob dydd a sylwi bod y cysylltiad hwn yn gallu cael effaith bositif ar eich cyflwr a’ch lles meddyliol yn y tymor byr a hir.
Bydd timau Gofal Cymdeithasol Oedolion y cyngor hefyd yn cymryd rhan drwy rannu ffotograffau a fideos sy’n dangos orau sut maent yn cysylltu gyda natur, drwy dudalennau cyfryngau cymdeithasol y cyngor.
Gallwch gymryd rhan drwy ddefnyddio #CysylltuGydaNatur, #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl #GolygfaTorfaen ar unrhyw lwyfan cyfryngau cymdeithasol o’ch dewis.
Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Thai, "Eleni, efallai fwy nag unrhyw flwyddyn, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Ar ôl y flwyddyn rydym wedi ei chael, mae pwysigrwydd cynnal iechyd meddwl da yn gliriach nag erioed. Boed yn mynd i’r gampfa, buddsoddi mewn hobi, mynd am dro mewn mannau gwyrdd neu wneud ychydig o arddio – mae’r cwbl yn lles o ran gofalu amdanoch eich hun.
Y flwyddyn ddiwethaf yma, dewisais i arddio. Fel rhywun sydd wedi byw gydag iselder a phryder cyn hired ag y gallaf gofio, roeddwn yn gwybod ei bod yn bwysig cadw’n brysur, ac fel roedd yn digwydd, roedd angen tipyn o ofal ar yr ardd.
Flwyddyn yn ôl, ni fuaswn erioed wedi dychmygu y byddwn wedi taflu fy hun i mewn i arddio fel rydw i wedi ei wneud, ond nawr rwyf allan yno bob dydd, yn dangos yr holl blanhigion wrth iddyn nhw dyfu i’r ferch fach 4 mis oed Alys. Felly, hyd yn oed ar stepen eich drws, neu yn eich cartref gyda phlanhigion tŷ, gallwch ailgysylltu gyda natur. Ewch yn ôl at yr hanfodion – mae’n gweithio."
Meddai Mark Rowland, Prif Weithredwr y Sefydliad Iechyd Meddwl: “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl wedi tyfu i fod yn un o’r wythnosau ymwybyddiaeth mwyaf yn y DU. Eleni y thema yw natur a’i rôl ganolog o ran ein hiechyd meddwl. Ers dechrau’r pandemig, trodd miliynau ohonom at natur i’n helpu gyda’r cyfnodau clo ac mae ein hymchwil yn dangos bod iechyd meddwl da yn dibynnu ar allu cysylltu â natur mewn rhyw ffordd, a’i rym o ran rhwystro a gwella o iechyd meddwl gwael.
“Yn ystod yr wythnos, rydym eisiau clywed miliynau o straeon am sut mae’r byd naturiol wedi helpu gydag iechyd meddwl pobl.
“Rydym hefyd eisiau dangos y gwahaniaethau anferth rhwng pwy sy’n gallu a phwy nad yw’n gallu cael mynediad at natur. Rydym eisiau i’r wythnos ystyried sut gall pawb ledled y DU gysylltu a natur a phrofi’r manteision iechyd meddwl ble bynnag y maent yn byw.”
Mae dulliau eraill lle gall drigolion ymuno gydag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cynnwys:
- Gwneud arfer bob dydd o gysylltu gyda natur yn eich ardal leol? Stopiwch i wrando ar gân yr adar, arogli’r gwair sydd newid ei dorri, gofalu am blanhigyn tŷ, sylwi ar unrhyw goed, blodau neu anifeiliaid gerllaw. Cymerwch ennyd i werthfawrogi’r cysylltiadau hyn.
- Defnyddio adnoddau’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich teulu, ysgol, man gwaith a chymuned i ymuno gyda miloedd o bobl a fydd yn canfod dulliau newydd o gysylltu â natur yn eu hamgylchedd lleol.
- Ymuno â rhaglen Cerdded Cymunedol Torfaen yn eich ardal chi
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, ewch i mentalhealth.org.uk/mhaw neu ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CysylltuGydaNatur a #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl