Wedi ei bostio ar Dydd Llun 10 Mai 2021
Mae’r artist o Gymru Nathan Wyburn eisiau disgleirio golau ar y gwaith y mae gofalwyr maeth Torfaen yn ei wneud, fel y bydd Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl yn cael ei goleuo’n oren yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth eleni.
Tra bo gan lawer ohonom deulu a ffrindiau sydd wedi bod yno i’n cynorthwyo yn ystod y cyfnod anodd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer o blant a phobl ifanc ledled Cymru sydd angen cymorth nawr, fwy nag erioed.
Mae Pythefnos Gofal Maeth yn ymgyrch recriwtio a chynyddu ymwybyddiaeth genedlaethol a redir gan y Rhwydwaith Maethu ac mae Cyngor Torfaen yn galw ar fwy o bobl yn Nhorfaen i ystyried maethu.
Thema eleni yw ‘#WhyWeCare’, ac mae’r artist o Gymru, Nathan Wyburn, sy’n adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu celfyddyd, wedi cynhyrchu darn sy’n defnyddio goleuadau LED i helpu i brofi sut gall unrhyw gartref fod yn gartref diogel a chariadus.
Meddai Nathan: “Anfonwyd cerdd ataf a oedd yn cynrychioli popeth y mae gofalwyr maeth yn ei wneud i roi dyfodol disgleiriach i blant ledled Cymru ac roeddwn eisiau creu rhywbeth a oedd yn eu hyrwyddo o ran sut maent yn agor eu drysau – a’u calonnau.
“Dewisais droi’r geiriau hynny yn gelfyddyd gyda darn sy’n dangos cartref fel y golau llythrennol ar ddiwedd y twnnel i blant a phobl ifanc.
“Rwy’n credu mai un o’r mythau mwyaf o gwmpas maethu yw bod yn rhaid i chi gael tŷ mawr gyda gardd fawr i fod yn ofalwr maeth – ac nid yw hynny’n wir o gwbl.”
Mae fideo sy’n dangos y darn yn dod at ei gilydd dros amser a gyda’r gerdd i’w gweld yn dangos sut mae cyd-destun y celfyddyd yn aneglur. “Dim ond pan roddir y goleuadau ymlaen y mae eglurder. Teimlad o bosibilrwydd a phositifrwydd yn dod trwodd,” ychwanegodd Nathan.
Nawr, gofynnir i bobl ledled Torfaen ddangos eu cefnogaeth i Bythefnos Gofal Maeth drwy ddodi lamp yn eu ffenestr flaen ddydd Iau nesaf (20fed Mai) i ‘ddisgleirio golau’ ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan ofalwyr maeth Awdurdodau Lleol, ac i ddathlu eu hymdrechion yn trawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Bydd adeiladau ledled Cymru, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl, hefyd yn cael eu goleuo yn oren i ddangos y gwaith hynod maent yn ei wneud.
Meddai’r Aelod Gweithredol y Cynghorydd Fiona Cross, “Mae gofalwyr maeth yn darparu gofal o ddydd i ddydd, sadrwydd, cariad a chefnogaeth i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd biolegol.
“Mae’r pandemig wedi golygu treulio llawer mwy o amser gartre, ond gall rhai plant a phobl ifanc ond freuddwydio am gael teimlad o ddiogelwch a chysur y mae’r aelwyd wedi ei darparu i’w mwyafrif ohonom. Yn syml, gall fod yn rhywbeth sy’n ymddangos allan o gyrraedd i rai plant a phobl ifanc.”
Mae angen cannoedd o deuluoedd maeth newydd bob blwyddyn yng Nghymru i ofalu am blant a phobl ifanc o bob oedran, yn enwedig ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant hŷn a phobl ifanc, plant ag anghenion ychwanegol a phlant sy’n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain.
Serch hynny, mae llawer o gamsyniadau o hyd ynglŷn â maethu. Er enghraifft, mae rhai pobl yn meddwl bod angen i chi fod mewn perthynas, neu’n briod, neu’n berchen ar eich cartref eich hunain, ac nid yw hyn yn wir o gwbl. Bydd gan lawer o bobl yn Nhorfaen ystafell sbâr y gellid ei throi yn lloches, gan drawsnewid bywyd plentyn a’i helpu i wireddu ei botensial llawn.”
Mae Cyngor Torfaen C yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, sy’n dod ag ystod o sgiliau a phrofiad i’r rôl. Bydd Cyngor Torfaen yn rhannu cynnwys ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy gydol Pythefnos Gofal Maeth i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a’r gwahaniaeth positif y gall ei wneud i fywydau plant a phobl ifanc.
Os ydych yn meddwl y gallech chi wneud gwahaniaeth drwy ddod yn ofalwyr maeth yn Nhorfaen, ewch i www.torfaen.gov.uk/fostering