Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Mawrth 2021
Bydd gwaith torri a sglodion coed yn parhau yn Llyn Cychod Cwmbrân am ychydig o wythnosau eto. Rydym yn disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd dydd Iau 1 Ebrill.
Yn y cyfamser, rydym wedi addasu gweithrediadau ar y safle er mwyn i’r maes parcio, y caffi a hanner y Llyn Cychod allu agor o fore Sadwrn (13 Mawrth). Yn anffodus, ni fydd modd agor y man chwarae na’r bont o Poppy Field Avenue.
Rydym wedi gwneud newidiadau mawr i’r dull a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio, felly gallwn agor y parc cyn gynted ag y bo modd.
Rydym yn dal i dderbyn adroddiadau bod pobl yn defnyddio’r ardaloedd sydd wedi eu ffensio yn y Llyn Cychod, a hoffem atgoffa trigolion unwaith eto bod y ffensys wedi eu gosod i ddibenion diogelwch.
Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen, byddwn yn cyhoeddi diweddariad arall, er mwyn i drigolion gael gwybod beth sy’n digwydd.