Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 30 Mawrth 2021
O ddydd Mawrth 6ed Ebrill, bydd Llyfrgelloedd Torfaen yn ymestyn eu gwasanaeth Cais a Chasglu i bob un o’r tair llyfrgell yn y fwrdeistref. Bydd aelodau’r llyfrgell hefyd yn gallu trefnu sesiynau cyfrifiadur 30 munud ym mhob llyfrgell.
I wneud cais am lyfrau neu i drefnu sesiwn ar gyfrifiadur, siaradwch gyda staff y llyfrgell.
O ddydd Mawrth 6ed Ebrill, gallwch gysylltu gyda’r llyfrgelloedd ar y dyddiau canlynol:
- Llyfrgell Cwmbrân (01633 647676): Llun - Sadwrn 10am-2pm
- Llyfrgell Pont-y-pŵl (01495 766160): Mercher, Gwener a Sadwrn 10am – 2pm
- Llyfrgell Blaenafon (01495 742333): Mawrth, Iau a Sadwrn 10am – 2pm
Dilynwch Lyfrgelloedd Torfaen ar Facebook i gadw i fyny gyda’r newidiadau i’n gwasanaethau wrth i ni weithio tuag at ail-agor graddol.
I ddefnyddio cyfrifiadur, ffoniwch 01633 647676 a rhowch rif eich cerdyn llyfrgell i wneud apwyntiad gyda’r llyfrgell o’ch dewis. Oherwydd argaeledd, mae sesiynau wedi eu cyfyngu i 30 munud ar hyn o bryd, a gallwch drefnu hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw.
Yn ystod y cyfnod hwn, defnyddiwch y sesiynau cyfrifiadur ar gyfer anghenion blaenoriaeth fel chwilio am swyddi, ceisiadau am fudd-daliadau diweithdra, ebost ac anghenion argraffu sylfaenol.
Pheidiwch â chyrraedd yn gynharach na 5 munud cyn eich apwyntiad gan y bydd y Llyfrgell yn defnyddio gwasanaeth “cyfarfod a chyfarch”. Bydd disgwyl i ddefnyddwyr y llyfrgell ddefnyddio glanweithydd dwylo wrth fynd i mewn ac wrth adael yr adeilad, gwisgo mwgwd a gadael eu manylion ar gyfer Tracio ac Olrhain. Bydd pob gorsaf gyfrifiadurol yn cael ei glanhau rhwng apwyntiadau.
Cadwch at reolau cadw pellter cymdeithasol pan fyddwch yn adeilad y llyfrgell os gwelwch yn dda.