Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021
Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen ar hyn o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr 16 oed a throsodd i gynorthwyo gyda nifer o Wersylloedd Chwarae a Lles yr haf yma.
Bydd y ddarpariaeth Chwarae a Lles yn rhedeg rhwng dydd Llun 26ain Gorffennaf hyd at ddydd Iau 19eg Awst ac yn digwydd mewn amrywiol ysgolion cynradd ledled y fwrdeistref.
Bydd y gwersylloedd yn cynnig amrediad o weithgareddau chwarae, oll yn gysylltiedig gyda’r ‘5 ffordd tuag at les’ a byddant yn annog plant i fod yn weithgar yn gorfforol, meithrin hunan-barch a chynyddu iechyd meddwl positif a gwytnwch.
Bydd yr holl wirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a byddant yn cael lleoliad, lle byddant yn cael profiad gwerthfawr o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd gwirfoddolwyr yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel, croesawgar a llawn hwyl.
Bydd cyfle hefyd i ddod yn un o’r ‘Bydis Chwarae’ – cefnogi plant ag anghenion ychwanegol.
Fel gwirfoddolwr yn yr haf gyda Chwarae Torfaen, pa gymorth fyddai’n ei dderbyn?
- Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn cymhwyster achrededig mewn gwaith chwarae ac Amddiffyn, ynghyd â chyfle i gwblhau cymwysterau Cymorth Cyntaf a Glendid Bwyd.
- Geirda ar gyfer cyfleoedd swyddi yn y dyfodol, lleoliadau coleg a phrifysgol.
- Lleoliadau wedi eu cefnogi ar gyfer Bagloriaeth Cymru, Coleg, Prifysgol a lleoliadau gwaith
- Treuliau dyddiol ar gyfer bwyd a theithio
- Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn gwahoddiad i’r Seremoni flynyddol Gwobrau Gwirfoddolwyr lle rydym yn dathlu eu llwyddiant
- Byddwn yn ymgynghori yn rheolaidd gyda gwirfoddolwyr, i wrando ar a gweithredu ar eu barn a’u sylwadau er mwyn llunio dyfodol y Gwasanaeth Chwarae.
Meddai Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: “Dangoswyd bod gwirfoddoli yn cynyddu hapusrwydd a lles personol, a gall helpu i ddatblygu ymhellach sgiliau cymdeithasol, ysbrydoli diddordebau newydd a hobïau, ac mae’n ffordd wych o gael profiad bywyd.
“Gall hefyd helpu i feithrin cyfeillgarwch newydd drwy ddod ag amrywiaeth o bobl o bob cefndir at ei gilydd.
“Os ydych yn chwilio am her gyffrous, llawn hwyl yr haf yma, yna cysylltwch â’n Tîm Gwasanaeth Chwarae i gael gwybod mwy am ein gwersylloedd lles neu gwnewch gais arlein heddiw.”
Mae gennyf ddiddordeb mewn gwirfoddoli – sut ydw i’n cymryd rhan?
Mae gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Chwarae yn agored i bob grŵp oedran a gallwch wneud cais arlein ar wefan y cyngor - https://www.torfaen.gov.uk/en/Forms/Others/Play-Service-Volunteers.aspx Chwiliwch am ‘Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Chwarae’. Mae opsiwn hefyd i ofyn am gael gwneud cais drwy ebost neu i gael ei anfon atoch drwy’r post.
Y dyddiad cau yw Mai 1af 2021. Bydd gofyn i bob gwirfoddolwr gael archwiliad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ac fe drafodwn hynny yn ystod y broses gyfweld.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwersylloedd Chwarae a Lles, ebostiwch Andrea yn andrea.sysum@torfaen.gov.uk