Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Mawrth 2021
Ar ôl 18 mis o gynllunio a datblygu gan awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, heddiw (15 Mawrth 2021) mae cynllun Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Gofalwyr Ifanc wedi ei lansio yng Nhorfaen.
Cyngor Torfaen yw’r cyngor cyntaf yn Ne-ddwyrain Cymru i lansio cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, fel rhan o’r cynllun cenedlaethol, ac mae’n cyd-daro gyda dathliadau Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, sy’n digwydd ar 16eg Mawrth 2021.
Mae Gofalwyr Ifanc yn ‘blant a phobl ifanc sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, anabl, gyda phroblemau iechyd meddwl neu a effeithir gan gamddefnyddio sylweddau’.
Mae nifer o fanteision i’r Cerdyn i’r gofalwyr ifanc sy’n dewis eu cael. Mae hyn yn cynnwys:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’u cyfrifoldebau fel gofalwyr a rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i’w rôl
- Gadael i bobl adael yn dawel am eu cyfrifoldebau gofalu heb orfod rhannu manylion personol drosodd a throsodd
- Rhoi hyder i ofyn am help neu ddealltwriaeth gan weithwyr proffesiynol megis athrawon, meddygon a fferyllwyr
Mae deiliaid y Cerdyn hefyd yn gallu defnyddio gwasanaethau Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, megis nofio a mynediad i’r gampfa am ddim.
Mae gofalwyr ifanc yn Nhorfaen wedi croesawu’r cynllun, ac maent yn credu y bydd yn galluogi iddyn nhw gael gwell cymorth yn eu cymunedau, a fydd felly yn helpu i wella eu lles nhw.
Mae gofalwyr ifanc yn aml yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o dasgau megis coginio, siopa, gwaith tŷ, gofal corfforol, codi a gofal personol. Yn aml hefyd mae’n golygu cymorth emosiynol, edrych ar ôl brodyr a chwiorydd sydd ag anghenion gofal a chymorth, dehongli, mynd â brodyr a chwiorydd i’r ysgol a’u nôl, a rhoi meddyginiaeth.
Tybir bod rhyw 30,000 o ofalwyr ifanc yng Nghymru ac ers dechrau’r pandemig bydd mwy o bobl ifanc wedi canfod bod ganddyn nhw gyfrifoldebau gofal. Yn Nhorfaen, ymgymerir ag asesiadau anghenion gofalwyr gan weithiwr cymdeithasol y gofalwr ifanc ac ar hyn o bryd mae Tîm Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cynorthwyo mwy na 120 o ofalwyr ifanc sydd wedi cael asesiad gofalwr.
Mae Tîm Gofalwyr Ifanc Torfaen wedi gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, a byddant yn gweithio gydag amrediad o bartneriaid i sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyflwyniad ein cerdyn yn Nhorfaen.
Mae Gofalwyr Ifanc Torfaen hefyd wedi gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth ymhlith ysgolion, colegau, fferyllfeydd, meddygfeydd meddygon teulu ac archfarchnadoedd lleol, gan eu helpu i ddeall anghenion ein gofalwyr ifanc, i’w cefnogi pan fyddant angen defnyddio gwasanaethau.
Meddai Julie Morgan, AS, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Rwyf eisiau mynegi fy niolch i bob un o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n gofalu yng Nghymru am y cymorth gwych y maent yn ei roi i deulu a ffrindiau mewn cyfnod mor anodd.”
“Hyd yn oed cyn i’r pandemig ddechrau, roeddem yn gwybod bod gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n gofalu yn wynebu pwysau wrth ofalu am rywun. Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi dangos i ni nad yw llawer o bobl, yn anffodus, yn gwybod sut i gydnabod, helpu neu gefnogi gofalwr ifanc.
“Bydd y cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol hwn yn rhoi ffordd gyflym i ofalwyr ifanc hysbysu eu hathrawon, staff archfarchnadoedd, fferyllfeydd neu feddygfa eu meddyg teulu eu bod yn gofalu am rywun. Bydd hefyd yn eu helpu i ddefnyddio eu hawliau dan ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014, gan gynnwys eu hawl i asesiad anghenion gofalwyr.
“Rwy’n falch ein bod yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol gan gynnwys Torfaen ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, i sicrhau bod pob ardal yng Nghymru yn cynnig cerdyn adnabod i’w gofalwyr ifanc erbyn 2022. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn oll gyflenwi gwell cymorth a chydnabyddiaeth i ofalwyr ifanc ledled Cymru.”
Meddai’r Aelod Gweithredol ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: “Rydym yn falch iawn o’r Gofalwyr Ifanc yn ein bwrdeistref, sy’n darparu enghraifft wych o wir ystyr gofalu ac sy’n amlygu’r berthynas rhwng dibyniaeth ac annibyniaeth. Mae mor braf gweld y gydnabyddiaeth honno drwy gyfrwng y prosiect Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Gofalwyr Ifanc ac i chwarae ein rhan yma yn Nhorfaen.
“Cynigir y cynllun cerdyn adnabod newydd i’n gofalwyr ifanc drwy ein llwybr atgyfeiriwr, neu gall eu teulu wneud cais yn uniongyrchol drwy wefan ein cyngor heb yr angen am asesiad ffurfiol”.
Meddai Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Mae gofalwyr ifanc ledled Cymru wedi bod yn galw am gerdyn adnabod i’w helpu i gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu a’r cymorth maent ei angen.
“Rydym wrth ein boddau bod Cyngor Torfaen yn lansio cerdyn adnabod fel rhan o’r model cenedlaethol newydd ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ac edrychwn ymlaen at gael pob ardal yng Nghymru yn cynnig cerdyn adnabod erbyn 2022.
“Bydd y cerdyn a’r adnoddau ategol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn helpu i rymuso gofalwyr ifanc i siarad yn agored gyda gweithwyr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg ynglŷn â’u hanghenion. Bydd yr adnoddau, sydd ar gael i’w lawrlwytho o Carers.org/YCID, hefyd yn rhoi i weithwyr proffesiynol y pecynnau sydd eu hangen arnynt i adnabod gofalwyr ifanc a rhoi cymorth priodol iddyn nhw.
“Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol ledled Cymru i gael cynnydd mor bositif i ofalwyr ifanc.”