Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Mawrth 2021
Mae hwb cyflogadwyedd rhithwir newydd i gefnogi trigolion ym myd gwaith wedi cael ei lansio yn Nhorfaen.
Bydd yr hwb rhithwir yn digwydd ar Microsoft Teams bob dydd Mercher, rhwng 10am a 12pm a 6pm tan 8pm, a bydd yn ceisio adlewyrchu'r gefnogaeth a gynigiwyd wyneb yn wyneb cyn Covid.
Ymhob sesiwn, bydd swyddogion Sgiliau a Chyflogadwyedd Torfaen yn cynnig cyngor a chefnogaeth i unrhyw drigolyn sy'n chwilio am waith, eisiau newid gyrfa, gwella ei sgiliau, neu sy'n ystyried cael hyfforddiant pellach.
Gall trigolion ddisgwyl derbyn cefnogaeth i:
- Ddod o hyd i swydd gwag
- Creu neu ddiweddaru CV
- Llenwi ffurflenni cais
- Bod yn barod am gyfweliad
- Cwblhau cymwysterau
- Cwrdd â chyflogwyr mewn modd rhithwir
Gellir cael mynediad at yr hwb rhithwir drwy ddilyn y cyswllt tinyurl.com/5c99yy7k
Yn ogystal, bydd tudalennau digwyddiadau Facebook cylchol yn rhedeg ochr yn ochr â'r hwb rhithwir a bydd yn cynnwys cyswllt wythnosol i gael mynediad i'r Hwb, gwybodaeth am gyrsiau sydd ar y gorwel a swyddi gwag lleol.
Gellir cael mynediad at ddigwyddiadau’r hwb rhithwir yma:
Yn y dydd: https://fb.me/e/cPsEZyWNi
Gyda’r Nos: https://fb.me/e/3tuyzAbKM
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio,
“Rwy’n falch iawn o weld yr hwb rhithwir newydd hwn yn lansio ac yn falch bod y tîm yn ystyried sut y gallant barhau i ddarparu eu cefnogaeth werthfawr i drigolion yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.
“Er ei bod yn anodd bod wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, mae’n hanfodol bwysig bod trigolion yn parhau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i sicrhau eu bod yn gyflogadwy a bod ganddynt sgiliau cyfoes.”
“Mae'r prosiectau a Ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) - Pontydd i Waith 2, Sgiliau Gweithio i Oedolion 2 a NET, yn helpu ein trigolion i helpu eu hunain ac mae'n wirioneddol wych gweld bod y gwasanaeth yn addasu i'r sefyllfa hon.
“Ni ellir gorbwysleisio’r gwahaniaeth y mae prosiectau Cyflogadwyedd a Sgiliau’r Cyngor yn ei wneud i fywydau pobl ac mae’r gefnogaeth hon hyd yn oed yn bwysicach nawr nag erioed. Mewn cyfnod pan fydd llawer o drigolion yn poeni am eu dyfodol o ran arian a chyflogaeth oherwydd yr ansicrwydd yn sgil y pandemig, mae yna help wrth law.”