Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 9 Mehefin 2021
Mae cynllun arloesol i gefnogi gofalwyr ifanc yn Nhorfaen yn helpu mwy na 100 o bobl ifanc.
Cyngor Torfaen oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lansio cynllun Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc ym mis Mawrth.
Mae’r cerdyn yn galluogi i bobl ifanc adnabod eu hunain fel gofalwyr i ysgolion, meddygfeydd a fferyllfeydd ac mae’n rhoi mynediad am ddim i nofio, sesiynau campfa a dosbarthiadau ffitrwydd, diolch i Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.
Fel rhan o Wythnos Gofalwyr 2021, goffai Cyngor Torfaen i fwy ofalwyr ifanc gofrestru ar y cynllun.
Meddai Jasmine, 15, sy’n gofalu am ei mam, “Gallaf nawr fynd i nôl presgripsiwn mam heb wynebu cannoedd i gwestiynau neu ofyn i mam ysgrifennu llythyr. Gallaf ddangos fy ngherdyn adnabod Gofalwr Ifanc.”
Dywedodd Gwynfor, 8, sydd hefyd yn gofalu am ei fam: "Ni allaf aros i ddangos fy ngherdyn i’r athro ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i nofio."
Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross, “Rydym yn falch iawn o’n Gofalwyr Ifanc yn ein bwrdeistref, sy’n rhoi esiampl wych o ystyr gwirioneddol gofalu ac sy’n amlygu’r berthynas rhwng dibyniaeth ac annibyniaeth.
"Mae mor braf gweld y gydnabyddiaeth honno gyda’r cerdyn adnabod cenedlaethol i Ofalwyr Ifanc.”
Gall unrhyw ofalwr ifanc wneud cais am gerdyn heb gael asesiad gyda gwasanaethau gofalwyr ifanc.
Meddai Rebecca Elver, gweithiwr cymdeithasol arweiniol ar gyfer gofalwyr ifanc yn Nhorfaen, “Rydym yn ymwybodol y gall fod mwy o ofalwyr ifanc cudd yn Nhorfaen nad ydynt, efallai, yn sylweddoli eu bod yn ofalwyr a bod eu bywydau yn wahanol i fywydau eu cymheiriaid oherwydd y tasgau sydd angen iddynt eu cyflawni yn y cartref.
"Efallai nad ydynt wedi cael asesiad neu efallai nad ydynt eisiau un, ond mae’r cynllun wedi ei gynnig iddynt drwy ein llwybr atgyfeiriwr y gellir ymddiried ynddynt, neu gall eu teuluoedd wneud cais yn uniongyrchol drwy wefan y cyngor heb yr angen i gael asesiad."
I wneud cais am y Cynllun Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, ewch i'n gwefan.