Newid bywydau drwy rannu bywydau

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Mehefin 2021
Shared Lives

Yr wythnos hon, rydym yn dathlu rhaglen genedlaethol Rhannu Bywydau – rhaglen lle mae pobl yn agor eu bywydau a’u cartrefi i’r sawl sydd angen cymorth.

Dyma gwpl lleol Kiki a Matthew Hern o Bont-y-pŵl, sydd wedi bod yn ofalwyr Rhannu Bywydau am y bedair blwyddyn ddiwethaf, yn gofalu am Joel sy’n 20 oed a dau ŵr ifanc arall sy’n byw gyda nhw yn y tymor hir.

Mae Kiki a Matthew yn cynorthwyo Joel i fyw bywyd llawn – datblygu annibyniaeth, symud ymlaen yn ei addysg a’i ddiddordebau, a meithrin rhwydweithiau cymdeithasol a chyfeillgarwch.

Meddai Kiki, sydd â thri phlentyn ei hun, “Ysbrydolodd ein mab ieuengaf ni i ddod yn ofalwyr Rhannu Bywydau. Mae wedi ei effeithio’n arwyddocaol gan awtistiaeth ac mae wedi dysgu cymaint i ni. Roeddem yn credu bod gennym lawer i’w gynnig i oedolion gydag anawsterau tebyg i’w rai ef. Roeddem yn hoffi’r syniad o deulu yn croesawu oedolyn sy’n agored i niwed i’w bywydau i’w tywys a’u helpu.

“Rydym wedi cynorthwyo Joel i fod yn fwy annibynnol ac mae wedi cymryd camau mawrion ers bod yma gyda ni y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae wedi tyfu fel person ac wedi dod yn ŵr ifanc hapus iawn sydd llawer mwy annibynnol  nag yr oedd pan symudodd i fyw gyda ni i ddechrau.

Rydym mor falch o ba mor dda mae’n gwneud, rydym wrth ein boddau yn bod yn ofalwyr Rhannu Bywydau ac rydym yn hoffi’r effaith bositif y gallwn ei gael ar y bobl rydym yn gofalu amdanynt.

“Pan ddechreuasom nid oedd gennym lawer o brofiad ond rydym wedi cael yr holl hyfforddiant sydd ei angen ac wedi cael cefnogaeth bob cam o’r ffordd, felly mae’r profiad cyfan wedi bod yn bositif iawn o’r cychwyn cyntaf."

Mae’r hyfforddiant y mae’r ddau wedi ei gwblhau drwy’r cynllun yn cynnwys amddiffyn, egwyddorion a gwerthoedd mewn gofal cymdeithasol, asesu risg, rheoli meddyginiaeth a chymorth cyntaf.

Yn ystod yr wythnos Rhannu Bywydau hon, mae Kiki a Matthew yn annog eraill i ystyried bod yn ofalwyr Rhannu Bywydau a gweld y gwobrwyon o wneud hynny. 

Sut allwch chi fod yn ofalwr Rhannu Bywydau

Mae Rhannu Bywydau yn croesawu cyplau neu bobl sengl, gyda neu heb blant, perchnogion tai neu denantiaid. Mae rhai gofalwyr yn ei wneud llawn-amser, eraill am gyfnodau byrion neu ar sail sesiynau. Mae’n debyg i faethu. Rhoddir hyfforddiant llawn, tâl a chymorth. 

Ar hyn o bryd mae 205 o aelwydydd yn darparu Rhannu Bywydau ar gyfer Cynllun De-ddwyrain Cymru, gyda 14 yn Nhorfaen. 

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Rhannu Bywydau? 

Mae Cynllun Rhannu Bywydau De-ddwyrain Cymru yn darparu gwasanaeth i oedolion sy’n agored i niwed yn eu cymuned leol, gan eu cyfateb gyda gofalwr Rhannu Bywydau.

Mae pob lleoliad yn cael ei deilwra i anghenion a gofynion yr unigolyn, o gymorth bob awr yn ystod y dydd i ddarparu lle hirdymor i fyw.

Mae’r cynllun ar gael i unrhyw berson dros 18 oed sydd wedi ei asesu fel rhywun sydd angen cymorth gofal cymdeithasol, gan gynnwys pobl gydag anabledd dysgu, colled synhwyrau, anableddau corfforol, anghenion iechyd meddwl a phobl hŷn.

Meddai’r Cynghorydd David Daniels, Aelod Cabinet Torfaen ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion a Thai: “Mae’r bobl sy’n cynnig eu hunain ar gyfer y cynllun hwn, sy’n newid bywydau, yn ysbrydoledig dros ben. Maent yn anhunanol yn derbyn pobl i’w cartrefi ac yn gofalu amdanyn nhw fel y bydden nhw gydag unrhyw aelod o’u teulu eu hunain. Rydym oll yn falch iawn o’n gwasanaeth Rhannu Bywydau ledled rhanbarth De-ddwyrain Cymru."

Os gallech chi neu rywun rydych yn eu hadnabod gynnig cartref a chalon agored i rywun sydd angen cymorth, cychwynnwch ar eich taith Rhannu Bywydau heddiw drwy gysylltu gyda Chynllun Rhannu Bywydau De-ddwyrain Cymru ar  01443 864586,  ebost adultp@caerphilly.gov.uk neu ewch i www.caerphilly.gov.uk/sharedlives

 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/10/2021 Nôl i’r Brig