Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Mehefin 2021
Mae Parc Sandybrook, Cwmbrân, sydd ar gau ar hyn o bryd oherwydd fandaliaeth, wedi dioddef hyd yn oed fwy o fandaliaeth.
Y tro hwn, mae siglen fasged wedi ei rhoi ar dân, gan arwain at losgi’r siglen fasged a’r tir oddi tani.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: "Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i drafod strategaeth i rwystro fandaliaeth yn y dyfodol, ac rydym yn wir obeithio mai dyma’r achos olaf yn y parc. Mae hwn yn amser y gellid ei dreulio yn delio gyda phethau eraill oni bai am y gweithredoedd bwriadol hyn sy’n digwydd.
“Mae cymaint o blant nawr yn colli allan a ddim yn cael hwyl yn yr awyr iach oherwydd bod y parc wedi cau. Rydym yn gobeithio na fydd y gweithredoedd bwriadol hyn yn parhau.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y fandaliaeth, ffoniwch y Cyngor ar 01495 762200 neu cysylltwch â Heddlu Gwent Police.