Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Mehefin 2021
Mae gwaith wedi dechrau ar ardd flodau newydd fel teyrnged i'r holl ofalwyr di-dâl yn Nhorfaen.
Fel rhan o Wythnos Gofalwyr eleni, mae Cyngor Torfaen wedi cyfrannu darn o dir ar safle Llyn Cychod Cwmbrân fydd yn cael ei lenwi â phlanhigion trwy gydol y flwyddyn.
Roedd Alan Walker, o Bont-y-pŵl, a oedd yn gofalu am ei ddiweddar wraig, ymhlith y gwirfoddolwyr a helpodd i blannu 400 o flodau yr wythnos hon.
Meddai: "Mae'r ardd yn gynnig hyfryd iawn a gobeithiaf y bydd pobl yn ei mwynhau ac yn ei gwerthfawrogi."
Trefnwyd yr ardd gan dîm gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Torfaen, sy'n cynnig cefnogaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl.
Ychwanegodd Alan: "Mae Louise Hook o'r tîm bob amser wedi bod o gymorth mawr - roedd hi bob amser yno i roi cyngor i mi pan oeddwn ei angen ac fe wnaethon ni fwynhau mynd ar y gwyliau a'r teithiau dydd y mae hi wedi'u trefnu."
Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai: "Thema Wythnos Gofalwyr eleni yw gwneud i ofalwyr deimlo'n weladwy a'u gwerthfawrogi.
"Mae'r ardd hon yn deyrnged barhaol i'r holl ofalwyr di-dâl yn Nhorfaen a bydd yn lle y gallant ymweld ag ef a'i fwynhau."
Mae'r ardd flodau wedi'i lleoli rhwng y llyn cychod a'r rheilffordd a thalwyd am y blodau drwy garedigrwydd cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Llywodraeth Cymru.
Mae cynlluniau i osod plac yno yn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Gill Pratlett, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chomisiynu: "Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle i fyfyrio ar y gefnogaeth y mae gofalwyr yn ei darparu i'w ffrindiau, teulu a chymdogion, sydd, yn aml yn mynd ymlaen heb i neb sylwi a heb i neb ei ddathlu.
"Rydym ni i gyd yn gwybod bod y straen a'r tensiynau wedi bod yn uwch nag erioed wrth ofalu am bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Diolch yn fawr i'r holl ofalwyr yn Nhorfaen, y rhai rydyn ni'n eu hadnabod a'r rhai nad ydyn ni byth yn eu cyfarfod."
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl a hoffech chi ddarganfod sut y gall Cyngor Torfaen eich helpu chi, cysylltwch â Louise Hook ar louise.hook@torfaen.gov.uk neu 01495 762200 neu beth am fynd i’n gwefan. Fel arall, gallwch gysylltu â Hwb Gofalwyr Gwent ar 01495 769996.