Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Mehefin 2021
Parc Sandybrook yng Nghwmbrân yw’r parc diweddaraf i gael ei fandaleiddio yn y fwrdeistref.
Mae’r parc wedi dioddef nifer o weithredoedd dinistriol ac mae’r diweddaraf wedi arwain at ddifrod i wyneb y maes chwarae a gosod bin ar dân.
Yn anffodus mae hyn yn golygu ein bod ni wedi gorfod cau’r parc am resymau diogelwch hyd nes y bydd modd trwsio’r difrod.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr amgylchedd: "Rwy’n drist o glywed am ragor o fandaliaeth yn un o’n parciau.
“Mae parciau’n boblogaidd iawn gyda phlant o bob oed, ac mae difrod fel hyn wedi peri i ni gau’r cyfleuster yma hyd nes y byddwn yn gallu gwneud atgyweiriadau. Mae’n drueni bod llond dwrn o bobl anghyfrifol wedi difetha hwyl cynifer.
“Yn anffodus, ni fydd modd defnyddio’r parc yma tan y byddwn ni’n gallu gwneud atgyweiriadau. Rydym yn annog unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y fandaliaeth yma i gysylltu â’r cyngor neu’r Heddlu”