Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Mehefin 2021
Bydd cau ffordd oherwydd argyfwng yn Commercial Street, Pont-y-pŵl yn parhau tan yr wythnos nesaf er mwy gwneud gwaith atgyweirio brys i bibau carthffosiaeth sydd wedi dymchwel.
Mae twll wedi cael ei gloddio a thwneli wedyn i ganiatáu i gontractwyr Dŵr Cymru i ymgymryd â’r gwaith. Mae Commercial Street ar agor o hyd i gerddwyr.
Mae’r seiffon carthffosiaeth sydd wedi ei ddifrodi yn effeithio ar ddim ond ychydig o’r eiddo yn adeilad Portland. Mae’r contractwyr yn tynnu briciau i ffwrdd nawr er mwyn cael mynediad i wneud yr atgyweiriadau.
Mae angen y cau rhwng cylchfan Park Road a’r gyffordd gyda Glantorvaen Road wrth y goleuadau traffig wrth y Ganolfan Ddinesig a Llyfrgell Pont-y-pŵl. Er gwaethaf y cau, mae mynediad llawn yn dal i fod at y meysydd parcio wrth y siopau. Mae gwyriad mewn grym i gyfeirio traffig o gwmpas Canol Tref Pont-y-pŵl gan ddefnyddio’r A4043.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Torfaen dros yr Amgylchedd: “Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau’r wythnos nesaf. Mae amodau anodd o dan ddaear yn gwneud y gwaith yn fwy anodd gan fod deunyddiau rhydd yn mynd i mewn i’r twll a dorrwyd. Bydd y contractwyr yn gweithio trwy’r penwythnos i gynnal y twll a chyrraedd y seiffon carthffosiaeth sydd wedi ei ddifrodi.”
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ffoniwch Ddŵr Cymru ar 0800 085 3968.