Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 8 Mehefin 2021
Mae oddeutu 120 o ofalwyr wedi cael help ychwanegol gan dimau gofal cymdeithasol Cyngor Torfaen yn ystod y pandemig coronafeirws.
Cawsant grantiau bach o hyd at £300 i helpu gyda phwysau ariannol neu i’w cynorthwyo yn eu rôl ofalu.
Mae Sarah Davies, o Bont-y-pŵl, y gofalu am ei gŵr sydd ag afiechyd cronig yr arennau. Gwnaeth gais am ddau grant bychan a’i helpodd i brynu llechen a Fitbit.
Meddau: "Rydym wedi bod yn gwarchod ers dechrau’r pandemig gan fod fy ngŵr yn cael ei gyfrif fel person Agored Iawn i Niwed yn Glinigol, ac roeddwn yn ei chael yn anodd iawn trefnu siopa arlein gan ddefnyddio fy ffôn symudol. Felly gwnes gais am grant bach i brynu llechen, ac mae wedi bod yn wych.
"Rwyf hefyd wedi prynu Fitbit sy’n helpu i wella fy iechyd innau. Rwyf wedi cofrestru i gerdded 531 milltir i godi arian i Aren Cymru felly mae’n fy helpu i gofnodi faint o filltiroedd rwyf wedi eu gwneud."
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae timau gofal cymdeithasol Cyngor Torfaen wedi helpu mwy na 350 o bobl sy’n gofalu am anwyliaid gyda grantiau bach eraill, gwasanaethau seibiant a chyngor ymarferol.
Dywedodd Tony Lewis, o Bont-y-pŵl, sy’n gofalu am ei wraig: "Buaswn yn annog unrhyw un sydd angen help i ofyn am hynny. Rwyf wedi cael profiad positif iawn yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf."
Fel rhan o Wythnos Gofalwyr, mae Cyngor Torfaen yn annog gofalwyr eraill di-dâl sydd angen help a chymorth i gysylltu.
Meddai Gill Pratlett, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chomisiynu: "Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle i feddwl am y cymorth y mae gofalwyr yn ei roi i’w teulu, ffrindiau a chymdogion, sy’n aml yn digwydd heb i neb sylwi arno. Fel rydym oll yn gwybod, mae’r straen a’r tensiwn wedi bod yn uwch nag erioed wrth ofalu am bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Yn Nhorfaen, rydym yn cydnabod bod gofalwyr angen amser i ofalu amdanynt eu hunain hefyd. Mae grant gofalwyr Torfaen wedi bod yn llwyddiant gan ei fod wedi rhoi cyfle i ofalwyr benderfynu eu hunain sut a phryd yr hoffent gael seibiant, neu benderfynu beth allai wneud eu bywyd ychydig yn haws.
"Diolch yn fawr i bob un o’r gofalwyr yn Nhorfaen, y rhai rydym yn eu hadnabod a’r rhai nad ydym byth yn eu cyfarfod."
Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion, y Cynghorydd David Daniels: "Mae llawer o ofalwyr a’r bobl maent yn gofalu amdanynt wedi eu cuddio oddi wrthym a gall y rôl maent yn ei chwarae a'r tasgau maent yn eu hymgymryd yn gallu bod yn anodd ac ailadroddus iawn.
"Mae’r gwaith y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud bob dydd yn ysbrydoli a hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu hymdrechion parhaus yn gofalu am eu hanwyliaid, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn."
Os hoffech gael gwybod pa gymorth sydd ar gael, cysylltwch â gweithiwr cymorth oedolion sy’n ofalwyr Cyngor Torfaen Louise Hook (louise.hook@torfaen.gov.uk) neu Weithiwr Cymdeithasol Gofalwyr Ifanc Rebecca Elvers (rebecca.elvers@torfaen.gov.uk) neu gallwch ffonio’r tîm ar 01495 762200. Gallwch hefyd gysylltu gyda Hwb Gofalwyr Gwent ar 01495 367564
I gael rhagor o wybodaeth am her codi arian Sarah Taith ar Draws Cymru ar gyfer Aren Cymru, cliciwch yma.
I gael gwybod rhagor am Wythnos Gofalwyr 2021, ewch i'r www.carersuk.org.