Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 8 Mehefin 2021
Bydd y cyngor yn cau heol mewn argyfwng yn Commercial Street, Pont-y-pŵl o 7am bore yfory (9fed Mehefin).
Bydd y cau mewn grym am nifer o ddiwrnodau er mwyn i waith atgyweirio brys gael ei wneud i bibau carthffosiaeth sydd wedi dymchwel. Bydd twll yn cael ei gloddio a thwneli wedyn i ganiatáu i gontractwyr Dŵr Cymru i ymgymryd â’r gwaith.
Mae angen y cau rhwng cylchfan Park Road a’r gyffordd gyda Glantorvaen Road wrth y goleuadau traffig wrth y Ganolfan Ddinesig a Llyfrgell Pont-y-pŵl.
Mae’r biben sydd wedi ei difrodi yn effeithio ar ddim ond ychydig o eiddo yn adeilad Portland ar hyn o bryd a bydd Commercial Street yn aros ar agor i gerddwyr.
Bydd holl feysydd parcio’r dref ar agor a bydd y farchnad dan do ar agor fel arfer ar ddydd Mercher.
Mae arwyddion traffig dros dro yn eu lle eisoes i alluogi gwaith ymchwiliol ond mae tebygrwydd o amharu ar draffig am nifer o ddiwrnodau.
Rhoddwyd gwybod i’r gwasanaethau brys, busnesau, ysgolion a chwmnïau bysiau.
Cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 am wybodaeth bellach.