Wedi ei bostio ar Dydd Llun 7 Mehefin 2021
Oeddech chi’n gwybod y gallech wneud cais am Atwrneiaeth Arhosol beth bynnag yw eich oedran?
Mae AA yn ddogfennau cyfreithiol sy’n caniatáu i chi benodi rhywun i wneud penderfyniadau am eich materion ariannol neu iechyd a lles pan na allwch gymryd y penderfyniadau eich hun.
Fel rhan o Wythnos Gofalwyr 2021 mae Cyngor Torfaen yn cefnogi ymgyrch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, Eich Llais Eich Penderfyniad, i gynyddu ymwybyddiaeth o AA.
Yn ddiweddar, trefnodd Jenny Steadman, sydd â dau o blant sy’n oedolion, AA ariannol.
"Gwelais pa mor anodd y byddai i ddelio gyda materion fy rhieni pe byddai un ohonynt yn colli’r gallu i wneud hynny, ac nid oeddwn eisiau hynny i fy mhlant," meddai.
"Roeddwn eisiau i bethau fod yn symlach iddyn nhw felly penderfynais ymchwilio i’r mater tra roedd gennyf y gallu meddyliol i gymryd penderfyniadau fy hun.
"Roedd y broses yn syml. Nid oedd angen i mi ddefnyddio cyfreithiwr. Dim ond mater o gwblhau’r ffurflenni arlein a’u hargraffu i’r unigolion eu llofnodi."
Mae dau fath o AA – ariannol a iechyd a lles – a gallwch benodi rhwng un a phedwar o bobl.
Rhaid cofrestru AA gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn gellir eu defnyddio. Mae ffi gofrestru o £82, ond efallai y bydd gennych hawl i ddisgownt o 50 y cant os ydych ar incwm isel, neu mae am ddim os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau.
Meddai Gill Pratlett, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chomisiynu Cyngor Torfaen: "Weithiau nid yw pobl yn ystyried gwneud AA nes byddant yn ymwybodol bod eu hiechyd yn dirywio, ond gallwch benodi rhywun rydych yn ymddiried ynddyn nhw i gymryd penderfyniadau ar eich rhan ar unrhyw oedran.
"Gall helpu eich anwyliaid i wneud penderfyniadau ar eich rhan, amddiffyn eich asedau a gall arbed arian yn y tymor hir."
Os hoffech gael mwy o gyngor am Atwrneiaeth Arhosol, ewch i www.gov.uk