Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 2 Mehefin 2021
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg y cyngor yn cyfarfod am 10am ar 9fed Mehefin i ystyried adroddiad ynglŷn â sut mae’r cyngor yn paratoi ar gyfer newidiadau i’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae gan y cyngor gyfrifoldeb i sicrhau fod gofynion newydd Ddeddf a’r Cod mewn grym i gefnogi dysgwyr hyd at 25 oed, a’u bod yn gweithio’n effeithiol gydag asiantaethau fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflenwi deilliannau gwell i blant a phobl ifanc.
Os oes gennych farn neu sylwadau i’w rhoi at y mater hwn, mae’r pwyllgor wedi gofyn i chi eu danfon at scrutiny@torfaen.gov.uk erbyn Dydd Llun 7fed Mehefin, i gynorthwyo eu trafodaethau.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma: Agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ar ddydd Mercher, 9fed Mehefin, 2021, 10.00 am (torfaen.gov.uk)
Gall aelodau’r cyhoedd a’r wasg wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein. Os hoffech wneud hyn, danfonwch e-bost at democraticservices@torfaen.gov.uk
Fel arall, gallwch wylio’r cyfarfod ar sianel YouTube y cyngor y diwrnod wedyn. Cliciwch yma Democratiaeth a Chraffu Cyngor Torfaen - YouTube i ymweld â thudalen YouTube y Cyngor.