Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021
Mae gweithiwr Cymorth Gofal o Dorfaen, Louise Hook, wedi ennill gwobr Seren Gofal am y gefnogaeth y mae hi wedi ei rhoi i ofalwyr lleol yn ystod y 15 mis diwethaf.
Menter gan Ofal Cymdeithasol Cymru yw Sêr Gofal ac fe’i crëwyd i arddangos gweithwyr gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a wnaeth wahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn ystod y pandemig.
Yn erbyn 120 o staff gofal ledled Cymru, aeth Louise i’r 12 olaf, gan ennill gwobr Seren Gofal am ‘gymorth gofal cymdeithasol i oedolion’.
Wrth weithio i’r Cyngor dros y 3 blynedd ddiwethaf, mae Louise yn helpu gofalwyr i fynd at grwpiau a gwasanaethau lleol, ac mae’n rhoi cymorth emosiynol.
Dywedodd, “Rwy’n teimlo wrth fy modd yn llwyr o fod wedi derbyn y wobr yma. Rydw i wrth fy modd gyda’r gwaith rwy’n ei wneud ac rwy’n hoff iawn o helpu eraill. Mae cael cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol yn anhygoel!”
Cymerodd Louise ran yn ddiweddar mewn dylunio a phlannu gardd blodau gwyllt mewn parc lleol i gydnabod a dathlu gofalwyr yn Nhorfaen ac mae hi ar fin sefydlu hwb gofalwyr yn Nhŷ Glas Y Dorlan, canolfan lles sydd newydd ei sefydlu yng Nghwmbrân.
Dyma’r wobr gyntaf i Louise gael ei henwebu amdani ac mae’n bwriadu parhau i gyflwyno ffyrdd newydd a chreadigol o gefnogi gofalwyr yn ei rôl.
Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Thai, y Cynghorydd David Daniels, “Mae’n hysbys bod Louise yn dweud yn aml wrth ei chydweithwyr i anelu’n uchel, a dyna beth mae hi’n ceisio gwneud pob tro y mae hi’n cefnogi gofalwyr anweledig ar draws y fwrdeistref.
Rwy’n adnabod Louise ers nifer o flynyddoedd nawr, gan ddechrau pan gwrddais i â hi fel Ymddiriedolwr Canolfan Gofalwyr Torfaen. Rwy’n adnabod Louise fel rhywun brwdfrydig, angerddol ac – yn fwy na dim – yn berson â’i thraed ar y ddaear, felly does dim syndod bod eraill wedi sylwi ar hyn. Dyma’r math o berson y byddech chi’n gobeithio amdani yn y sector gofal.
Mae’n wych clywed am waith Louise dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys dathlu Gofalwyr Torfaen a’r galwadau ffôn dyddiol pwysig ac, yn aml, emosiynol. Mae’n wasanaeth gwych ac yn un y dylai Louise fod yn falch dros ben ohono.”
I wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr yn Nhorfaen, ewch i wefan y cyngor - www.torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 762200.