Wedi ei bostio ar Dydd Llun 19 Gorffennaf 2021
O 1 Hydref 2021 ymlaen bydd y gofynion ar gyfer labelu bwyd PPDS yn newid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y gofynion labelu newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar y deunydd pecynnu a allai achub bywydau.
Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu i ddangos enw’r bwyd a’r rhestr gynhwysion. Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd.
Yn y weminar hon, byddwn yn cyflwyno cefndir y newidiadau hyn o ran labelu alergenau, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha. Byddwn yn helpu busnesau bach a micro i ddeall yn well beth yw PPDS, sut mae'n effeithio ar eich busnes bwyd a sut y gallwch sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau newydd o 1 Hydref 2021 ymlaen.
Byddwn yn neilltuo amser ar ddiwedd y sesiwn fel y gall cynrychiolwyr ofyn cwestiynau a chael atebion gan ein panel arbenigol. Gallwch gyflwyno eich cwestiynau yn y digwyddiad byw, neu yn yr adran “Cyflwyno Cwestiwn” ar gyfer cynrychiolwyr.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, a’r cyntaf i’r felin fydd hi. Bydd cofrestru’n cau Dydd Mercher 28 Gorffennaf.
I’r rheiny ohonoch sy’n methu cymryd rhan, bydd y weminar lawn ar gael fel ffeil fideo ar gael ar wefan yr ASB ar ôl y digwyddiad.
Mwy o wybodaeth ewch i FSA explains PPDS changes for businesses | FSA explains PPDS changes for businesses (fsaevents.co.uk)